Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

YNYSOEDD. Roedd gweld ynysoedd yn yr Iwerddon yr wythnos diwethaf yn brofiad dymunol. A does dim rhyfedd i ran o Star Wars Pennod V11 gael ei ffilmio’n dangos Ynys Skellig Michael. Ei

gweld o’r cwch a wneir heddiw er i’r mynachod fyw ar y graig ganrifoedd yn ôl. Yno hefyd mae teuluoedd mwyaf y mulfrain llwyddion, gwylanod coesddu a’r morloi. Gwerddon fach efallai heddiw

i adar fel gwylanod coesddu a mulfrain llwydion yw.

Un o bleserau bod ar wyliau yw darllen papurau newyddion. Er digalon iawn oedd darllen ymatebion at Brexit. ‘ Ar yr union adeg pan roedd Iwerddon yn dechrau anghofio ei hanes hi â

Phrydain’… ‘ ‘Peidiwch â’i alw ‘ The Irish backstop’-- backstop UK/EU ydyw’. Cyfeiriwyd at sylw

Xavier Bettel o Luxembourg ‘ before they were in with a lot of opt-outs, now they are out and want a lot of opt-ins’. ‘Northern Ireland cannot be put on the chopping block of history once again’,

meddai un llythyrwr cyn awgrymu llywio llong tua’r un nod.

Y gwirionedd amdani medd y colofnydd Fiach Kelly o’r ‘ Irish Times yw nad yw’r Prydeinwyr ddim erioed wedi ymwneud ag Iwerddon ‘willingly’. ‘ Why didn’t the British focus on the fact that they had an extensive land border with the European Union? The answer was is that it was in Ireland. It wasn’t serious ‘– medd Sean O’ hUginn. A dyna ddod at galon y gwir. Pryd y clywsom gyfeiriad o gwbl am Iwerddon a’r cymhlethdo­d a allai godi? Ond yn sydyn reit, daeth yn fater o dragwyddol bwys i’r rhai hynny oedd am hwylio eu cwch eu hunain – yn ddelfrydol tuag at fôr yr Iwerydd ac America, mewn dingi bach simsan.

Dim rhyfedd ychwaith bod rhai’n dyfynnu Johnson y dyddiau yma fel arwydd o obaith. Na, nid yw Boris a gafodd ei freuddwyd o fod yn Brif Weinidog – a hei lwc gyda hynny ontife. Ond y Johnson–arall – Samuel a ddywedodd unwaith nad oedd dim byd yn para yn hir.

Wel does dim llawer o barhad – os caiff y Llywodraet­h ei ffordd cyn dymchwel ar greigiau yr un mor arw â’r rhai yn Skellig. Falle i fynachod breswylio yno yn y 5ed ganrif a byw ar bysgod a mêl gwyllt ond go brin y bydd modd iddynt ‘lywodraeth­au’r tonnau’.

Yn ôl ymchwil gan Microsoft, gallu canolbwynt­io y person cyffredin yw 8 eiliad, i lawr o 12 yn y flwyddyn 2000. Rydym fel pe baem yn byw mewn powlen i bysgodyn aur. ‘No man is an island,’ meddai John Donne ond rydym yn debygol o fod fel pysgod aur mewn pwll bach yn fuan iawn os na chawn refferendw­m arall.

A diwedd ar y pysgod mawr sydd am hawlio pwll bach. A’n llyncu oll.

■ Mae Dr Menna Elfyn yn Gyfarwyddw­r Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom