Western Mail

Treialon Cŵn Defaid Cenedlaeth­ol ‘yn un o’r gorau erioed’

- Lloyd Jones

YN ÔL llywydd Cŵn Defaid Cenedlaeth­ol Cymru, Eirian Morgan o Aberystwyt­h, dyma oedd un o’r Treialon Cenedlaeth­ol gorau erioed. Rhaid cydnabod gwaith y pwyllgor lleol, yn arbennig y cadeirydd Meirion Owen, am y fath lwyddiant.

Cafwyd cefnogaeth o bell ac agos dros y tridiau. Yn amlwg, roedd yr Ŵyl Fwyd a Chrefftau wedi bod yn atyniad ychwanegol. Gyda lleoliad y Treialon ym Mharc Dinefwr, roedd yn olygfa odidog gydag amrywiaeth tiroedd a choed derw hynafol yn adlewyrchu diddordeb a chyfraniad yr uchwelwyr gynt i’r amgylchedd.

Daeth i’r amlwg fod y cwrs yn dipyn o her i’r cŵn. Medrid danfon y ci allan i gyrchu’r pum dafad raenus (Miwl Suffolk) ar unrhyw ochr, er mai’r ochr dde oedd y mwyaf ffafriol.

Gyda’r amrywiaeth tirwedd, roedd y cŵn yn colli golwg ar y defaid gyda’r trafodwr hefyd yn colli golwg ar y ci. Dyma’r maen tramgwydd i nifer o’r cŵn. Rhaid oedd wrth gi a fedrai ddangos awdurdod, yn enwedig wrth godi’r defaid, yn y gwaith dan law, wrth ddidoli a chorlannu. Cafwyd rhediadau safonol dros y tridiau a oedd yn plesio’r gwylwyr ac yn destun cymeradwya­eth.

Diddorol oedd sylwi fod cymaint o amrywiaeth yn oedran y cystadleuw­yr. Tybed a oes unrhyw gystadleua­eth arall lle gwelir bachgen 13 oed, Elgar Jarman o Lanbrynmai­r a John Lightfoot o Wrecsam, dros ei 90 oed, yn cyd-gystadlu ac yn cwblhau’r cwrs.

Pencampwr y dydd oedd bachgen ifanc 25 mlwydd oed, Arwyn Davies o Gorwen. Ond nid yr ifancaf erioed, gan fod Ellis Wyn Edwards o Ruthin, sy’n dal i fod yn gystadleuw­r brwdfrydig wedi bod yn Gapten Cymru yn 24 mlwydd oed yn 1965. Dyma’r tim o 15 fydd yn cynrychiol­i Cymru yn y Treialon Rhyngwlado­l yn yr Alban ar Medi 13-15.

Pencampwr a 1af Arwyn Davies a Peg; 2. Beate Behr a Bendigedig Leni; 3. Arwel Owen a Glenys; 4. John Bowen a Roy; 5. Llion Harries a Preseli Fly; 6. Dr. Kelvin Broad a Kinloch Cade; 7. Llyr Evans a Zac; 8. Eirian Morgan a Spot; 9. Meirion Jones a Meg; 10. Robert Ellis a Tod; 11. David Evans a Lass; 12. David Evans a Kemi Maid; 13. Irwel Evans a Gwnnws Maid; 14. Arwel Owen a Caleb 15. Kevin Evans a Hybeck Blake. Wrth Gefn – David Howells a Rock.

Dyn a dau gi 1. Kevin Evans, Aberhonddu; 2. Ian Jones, Erwood.

Trafodwr Ifanc – Elin Hope o Geredigion.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom