Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

MI FYDDAI’R diweddar Paul Flynn yn falch mewn un ffordd o leia’.

Roedd Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd wedi gweithio’n ddi-baid i drïo tynnu sylw at beryglon yr holl foddion a chemegau yr yden ni’n eu cymryd heddiw yn enw iechyd.

“Big Pharma” oedd ei derm o am y cwmnïau anferth sy’n gwneud ffortiwn o foddion; cwmnïau sydd wrth gwrs yn elwa po fwya’ y byddwn ni’n eu defnyddio.

Felly, mi fyddai Paul Flynn, yn cefnogi casgliadau adroddiad diweddar sydd wedi dangos cymaint o bobol yn Lloegr sy’n gaeth i gyffuriau meddygol – gan wybod bod yr un peth yn wir yng Nghymru hefyd.

Ar y radio echdoe, roedd yna ddyn o Gaerdydd yn sôn am ei brofiad yntau o fod yn gaeth i gyffuriau lladd poen a’u heffaith ddinistrio­l ar ei fywyd, yn peryglu ei briodas, ei waith a’i hapusrwydd.

Yn ystod y misoedd diwetha’ hefyd mae mwy a mwy o sylw wedi bod i’r hyn sy’n cael ei alw’n “epidemig opioids” yn yr Unol Daleithiau – dyna’r cyffuriau cry’ sy’n gwneud i bobol fynd yn gaeth iddyn nhw trwy eu defnyddio o hyd ac o hyd.

Mae tri math o foddion yn cael mwy o sylw na’r gweddill – moddion lladd poen, moddion atal iselder a chyffuriau cysgu. Y cyfan yn gallu gwneud pobol yn gaeth iddyn nhw, y cyfan yn anodd iawn eu gollwng a’r rhan fwya’n cael eu cynnig gan feddygon yn rhy rhwydd ac am gyfnodau rhy hir.

Mi welais fy nhad yn ei fisoedd ola’n mynd i ddibynnu ar dabledi cwsg. Wrth iddyn nhw fynd yn llai a llai effeithiol oherwydd defnydd cyson am gyfnod hir, roedd o’n mynd i gymryd rhagor gan feddwl mai dyna’r ateb.

Mae yna dystiolaet­h fod cyffuriau o’r fath yn peidio â bod yn effeithiol ar ôl hyn a hyn ond, yn unol â natur bod yn gaeth, dydi’r claf ddim yn sylweddoli hynny.

Nid unigolion yn unig sy’n gaeth i’r rhain; mae fel petai’r Gwasanaeth Iechyd ei hun wedi’i fachu.

Mi fydd cleifion yn mynd at ddoctor gan ddisgwyl cael meddyginia­eth – mesur llawer o bobol o feddyg da ydi ei bod hi’n rhoi cyffuriau at bob dim a phopeth.

Er mwyn cael bywyd hawdd, mae’n debyg mai’r peth symla’ i ddoctor ydi cydsynio ... ond mae yna broblem arall hefyd.

Fel y dywedodd y dyn o Gaerdydd, does neb yn edrych yn ddigon aml ar y cyffuriau y mae pobol yn eu cymryd.

Mae yna achosion o bobol yn cymryd cyffuriau cry’ am flynyddoed­d, heb fod neb yn sylwi bron. Ac un cyffur weithiau’n gwrthweith­io yn erbyn un arall gan arwain presgripsi­wn pellach i drio dadwneud y drwg.

Yr eironi, wrth gwrs, ydi y byddai system o’r fath, efo cyffuriau gwahanol, yn hollol yn erbyn y gyfraith.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom