‘Dylanwadu gyda ffeithiau camarweiniol yn annerbyniol’
HYDERIR fod pawb sy’n cynhyrchu cig coch wedi manteisio ar y cyfle i ddarllen Bwletin Hybu Cig Cymru Haf 2019 gyda’r neges sydd wir werth ei phwysleisio.
Ceir gwybodaeth a ffeithiau am y gwaith mae HCC yn ei wneud yn wyneb nifer o heriau o’r newydd a chrynodeb o’u hincwm a’u gwariant.
Gyda phris cig biff i’r ffermwr wedi bod mor isel, gellir casglu y byddai’r sefyllfa llawer gwaeth oni bai bod HCC yn trefnu gweithgareddau ac yn ymroi i hyrwyddo cig coch er mwyn sicrhau marchnad newydd yma a thramor.
Mae’r ansicrwydd parhaus yn sgil Brexit a mynediad i farchnad Ewrop yn ffactor allweddol ac yn achos pryder mawr.
Rydym yn byw mewn cyfnod lle ceir sylwadau di-sail fod cig coch yn ddrwg i iechyd pobl ac i’r amgylchedd. O safbwynt yr amgylchedd yng Nghymru mewn cymhariaeth â gwledydd tramor mae gennym un o sustemau cynhyrchu mwyaf cynaliadwy’r byd. Olrheinia cadeirydd HCC, Kevin Roberts, stori carbwn mewn glaswellt, gan nodi fod y ffermwr yn rheoli’r broses yn ofalus drwy atgynhyrchu’r pridd a hyrwyddo bioamrywiaeth yn sgil hynny.
Rhaid argyhoeddi’r cyhoedd fod y ffordd Gymreig o ffermio yn gynaliadwy. Dull sy’n galluogi cynhyrchu cig o safon ac ansawdd arbennig, yn wahanol i stori’r cig sy’n cael ei fewnforio.
Dengys yr ymchwil ddiweddaraf fod nwy methan, y prif nwy sy’n cael ei ryddhau gan dda byw, yn gwneud bach iawn o ddifrod hir-dymor o’i gymharu â llygryddion carbwn sy’n cael eu rhyddhau gan drafnidiaeth.
Diddorol oedd clywed gan ffermwraig wrth iddi amddiffyn ei hachos. Medrwch gysgu’n gysurus ochr yn ochr â gwartheg heb unrhyw niwed i’ch iechyd, ond cysgwch yn ymyl un car gyda’r injan yn rhedeg, ac ni fyddwch byw yn y bore.
Bu pwysau cynyddol o gyfeiriad gwrthwynebwyr cig yn ddiweddar. Does dim gwrthwynebiad i’r bobl hynny sy’n dewis cael deiet fegan na bod yn gig-wrthodwr a dewis bwyd llysieuol. Gall fod yn fantais i iechyd rhai pobl. Ond mae ceisio dylanwadu gyda ffeithiau camarweiniol yn gwbl annerbyniol.
Mae HCC yn gyfrwng i argyhoeddi’r cyhoedd ar sail gwybodaeth gywir. Mae bwyta deiet gymhedrol ar blat cytbwys yn ffynhonnell dda o faeth hanfodol fel protin, fitaminau B, haearn a sinc. Mae tystiolaeth fod diffyg maeth o’r fath yn neiet llawer o ferched ifanc. Mae rhinweddau pendant yn y maeth hanfodol a gynigir gan gig coch.