WELSH COLUMN
ROEDD hi’n braf cael esgus y diwrnod o’r blaen ar rhaglen radio Dros Ginio i drafod un o’r dynion hynota’ i droedio daear Cymru erioed.
Mae William Price yn gwneud i Iolo Morganwg ymddangos yn ddyn syber, llwydaidd, ac mae’n cael ei gofio, fel rheol, am bethau fel mercheta ac ennill y frwydr i gael llosgi, yn hytrach na chladdu, cyrff.
Ers rhai blynyddoedd bellach, mae yna hanesydd o’r enw Dean Powell wedi gweithio’’n galed i chwalu’r darlun yna, neu o leia’ i ychwanegu ato fo. Ochr yn ochr â’r pethau ecsentrig, lliwgar, roedd gan y meddyg, Dr William Price, syniadau ymhell o flaen ei oes.
Mewn llawer ffordd, mae’n debyg i Iolo Morgannwg, yn byw yn yr hyn y bydden ni’n ei alw yn fyd ffantasi llawn derwyddon a Cheltiaid a rhamant. Roedd y ddau’n hynod yn eu ffordd o fyw – hyd yn oed i lygaid eu hoes eu hunain – ond, yn fwy na hynny, yn feddylwyr llachar.
Fel pawb, doedden nhw ddim yn gyson nac yn saint ond, ynghanol eu breuddwydion am Gymru ddoe ac yfory, roedd y ddau’n coleddu egwyddorion anferth sy’n llywio ein diwylliant heddiw ac yn genedlaetholwyr cyn dyfeisio’r gair.
Yn ôl yn nechrau’r hen, hen ganrif, pan oedd William Price yn cael ei eni yn Tynycoedcae yn Rhydri, Caerffili, roedd Iolo Morganwg yn gwneud safiad go iawn yn brwydro tros ryddid cydwybod a barn, yn erbyn y sefydliad.
Mae’r rhestr o achosion arloesol William Price yn fwy trawiadol fyth; roedd yn erbyn claddu am fod hynny’n halogi’r ddaear, roedd yn erbyn priodas am fod hynny’n caethiwo merched; roedd yn erbyn bwyta cig a hyd yn oed yn gwrthod trin cleifion oedd yn smocio.
Undodwr oedd Iolo Morganwg, yn gwrthod credoau caeth a defodau’r Eglwys ac yn mynnu mai dyn, nid duw, oedd Iesu Grist; roedd William Price yn gwrthod y duw Cristnogol yn llwyr ac yn dilyn crefydd y Celtiaid.
Mae’n hawdd wfftio heddiw at ei gredoau ond, o safbwynt rhywun sy’n credu yn nechreuadau gwyddonol y byd, dydi esboniad William Price am wreiddiau’r bydysawd ddim tamed rhyfeddach na’r syniad o berson tadol mewn barf wen yn creu popeth mewn chwe niwrnod.
Y peryg ydi ein bod ni’n barnu pobol yn ól safonau simsan ein hoes ni, heb ystyried camp y bobol ryfeddol yma oedd, i raddau helaeth, yn eu haddysgu eu hunain ac yn chwilio trwy’r amser am wybodaeth ac esboniad.
Y peryg arall ydi eu barnu nhw trwy lygaid Prydeindod Oes Victoria, gan edrych arnyn nhw fel rhyw anwariaid rhamantus o’r mwrllwch Celtaidd – fel yr edrychodd arolygwyr y Llyfrau Gleision ar fywyd yng nghefn gwlad Cymru.
Yn hytrach, mi ddylen ni ddathlu eu hodrwydd gogoneddus nhw – a’u hathrylith hefyd.
■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360