Blwyddyn dyngedfennol i’r diwydiant amaeth
WRTH i broses ymadawiad y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd fynd rhagddi gellir rhagweld y flwyddyn 2020 yn mynd lawr mewn hanes ac yn dyngedfennol i’r diwydiant amaethyddol.
Ers 1975 mae’r diwydiant amaeth wedi cael ei reoli dan faner yr UE gyda’r ffermwyr wedi derbyn cymorth ariannol yn flynyddol i’w cynorthwyo i geisio gwneud y fferm yn gynaliadwy. Hyderwn y gall Llywodraeth Cymru barhau i wneud hynny.
Calonogol yw bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu bod y taliadau sengl yn mynd i barhau yr un fath am flwyddyn arall, ac hyd 2023 ond o dan amodau gwahanol.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth
Cymru ymgynghoriad o’i bwriadau ar Ôl gadael yr UE. Dyma’r cynllun cadernid economaidd a’r cynllun nwyddau cyhoeddus sy’n golygu cynlluniau newydd i gynhyrchu bwyd yn amgylcheddol gyfeillgar.
Hyderwn nad gwobrwyo ffermwyr am gynlluniau newydd yn unig fydd yn hawlio cymorth ariannol ond y prosiectau mae ffermwyr eisioes yn eu gweithredu.
Ers yr Ail Ryfel Byd, prif bwrpas ffermwyr oedd sicrhau cyflenwad diogel a digonol o fwyd. Bellach, mae yna heriau newydd gyda’r sylw fwyfwy ar yr amgylchedd a’r hinsawdd a’r ffordd o geisio lleihau allyriadau carbwn. Ymhyfrydwn yn y ffaith fod gan ffermwyr Cymru un o sustemau cynhyrchu bwyd mwyaf cynaliadwy’r byd.
Bydd yn hanfodol fod yna gydweithrediad agos rhwng y llywodraeth, y pleidiau eraill a’r diwydiant amaethyddol os am weld y fferm deuluol yn dod i arloesi yng nghefn gwlad Cymru.
Rhaid cydnabod fod yr undebau amaethyddol yng Nghymru, yn union ar Ôl yr etholiad, wedi manteisio ar y cyfle i argyhoeddi gwleidyddion fod ffermwyr Cymru yn rhan o ddiwydiant gwerth £6.9bn. Yn ogystal â hynny mae’r diwydiant yn cyflogi 240,000 o bobl sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd o safon uchel ar sail asedau naturiol ac amgylcheddol gyfeillgar.
Mae ffermwyr Cymru yn ymwybodol nad cynhyrchu bwyd yn unig yw eu dyletswydd ond bod ganddynt gyfrifoldeb i’r tirwedd, eu hamgylchedd, eu cymunedau a’u diwylliant.
Mae pob diwydiant ffyniannus wedi ei adeiladu ar seiliau cadarn gyda buddsoddiadau arloesol ar sail mentergarwch. Daw hyn i’r amlwg yng ngweithgareddau’r diwydiant fwyfwy y dyddiau yma.
Anodd rhagweld beth fydd perthynas masnach y tu allan i’r UE ag amaeth, y gadwyn fwyd a’r gymuned wledig sy’n ddibynnol ar y diwydiant amaeth yng Nghymru.