Rhaid datganoli darlledu i Gymru
MAE’R adroddiadau bod Llywodraeth Prydain yn cynllunio diddymu’r ffi drwydded deledu yn fygythiad real i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru. Nid oes amheuaeth bod y Torïaid yn cynnal rhyfel ideolegol filain yn erbyn darlledu cyhoeddus, ac mae’n rhaid i ni yng Nghymru wrthsefyll hyn.
Nid yw’r bygythiad yma wedi ymddangos dros nos, yn hytrach, mae’n benllanw degawdau o ddadreoleiddio darlledu a chyfathrebu gan Lywodraethau yn San Steffan - dadreoleiddio sydd wedi niweidio ein democratiaeth, ein hiaith a’n cymunedau er lles busnesau mawrion.
Efallai, canlyniad y ffrae bresennol bydd parhad y ffi drwydded ar ryw ffurf am y tro. Fodd bynnag, mae crebachu ar wasanaethau hollgynhwysol bron yn sicr dan Lywodraeth Boris Johnson. Mae’n awyddus i blesio’r corfforaethau mawr, megis Sky a News International.
Sut dylen ni yng Nghymru ymateb? Mae’n syml: dylai penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Ac mae pobl Cymru yn cytuno, yn ôl arolwg barn gan YouGov, mae 65% yn ffafrio datganoli pwerau darlledu i’n Senedd ni yma.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi papur polisi ynghylch sut y dylid mynd ati i ddatganoli darlledu a sut y byddai ei ariannu. Rydym yn amlinellu yn y papur sut gallwn ni denu llawer mwy o gyllid i ariannu darlledu yng Nghymru wrth nid yn unig ddatganoli’r ffi drwydded a ffioedd Ofcom, ond hefyd trwy osod ardoll ar gwmnïau mawr sydd yn gwneud arian o weithredu yng Nghymru – cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook. Gyda’r arian ychwanegol, bydd modd ariannu mentrau iaith digidol ynghyd â gorsafoedd radio a sianeli teledu ychwanegol wedi i’r pwerau gael eu datganoli.
Mae’n bryd i bobl uno tu ôl i’r ymgyrch dros bwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru. Gallwch chi ddarllen am sut i gynorthwyo’r ymgyrch drwy fynd i cymdeithas. cymru/datganolidarlledu.