Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

WNA i ddim hyrwyddo math arbennig o siocled yn y golofn hon am nad wyf am roi cyhoeddusr­wydd i’r cwmni. Ond pan wnaethant gymharu’r iaith Gymraeg fel eistedd ar ben allweddell(au) – roeddwn yn gwybod yn iawn y teimlad hwnnw.

Achos dyna fel rwy’n teimlo weithiau wrth ysgrifennu’r golofn hon.

Aethant mor bell wedyn ag ysgrifennu Llanfair Pwll yn ei ogoniant hirfaith fel pe bai hynny’n ategu’r gred, a’r doniolwch.

Wn i ddim beth a wnelo hynny â "siocled". Bydd gofyn imi bwyso a mesur efallai, ac wrth feddwl am bwyso, cadw draw a wnaf wrth y cyfryw far o siocled caramelaid­d.

A chadw draw hwyrach yw dihareb y dydd wrth inni gael ein hatgoffa i olchi ein dwylo am o leiaf 20 eiliad mewn dŵra sebon. Does dim hylif diheintio ar ôl bellach yn unlle.

Peidiwch â phanico yw’r rhybudd ond rhybudd yw mae’n amlwg i yrru rhai i banic a chwilio hyd a lled y wlad am ddiheintyd­dion.

Ydyn, mae’n haeddu llond ceg o enw ond fe wnaiff dabad go dda o sebon y tro meddir. Ei wneud yn aml hefyd. A pheidio â chyffwrdd â’ch wyneb. Roedd hwn yn agoriad llygad i mi sef ein bod yn cyffwrdd â’n hwynebau ugeiniau o weithiau mewn diwrnod.

Gan nad wyf yn defnyddio colur ar fy wyneb bob dydd, mae’n anodd gen i gredu fy mod ag unrhyw ddiddordeb i gyffwrdd na boch, na llygad, na chlust. Ydi clust yn cyfri fel rhan o’r wyneb? Tybed?

Y newydd da i rai ohonom beth bynnag yw bod y cusanu dwl cymdeithas­ol yma’n dod i ben. Capwt. Yr oedd weithiau yn feichus, yn enwedig gan rai oedd yn mynnu ein bod yn cusanu ddwywaith ac yna y drydedd waith yn aml. A dyw gwasgiad arth ddim llawer gwell ychwaith.

Gellid adnabod person yn hawdd wrth y ffordd y mae’n ysgwyd eich llaw. Cymaint yn well yw ffordd y dwyrain o roi dwy law yn erfyn atoch a dyna ni.

Cadw’n ddierth felly yw mantra ein dydd ac ofni’r dieithryn, nid am y gall fod yn derfysgwr bellach ond am y gall fod yn frawychwr neu frawychwra­ig dawel ei feirws, ac yn hollol ddi-hid (am nad yw’n gwybod) o’ch llesiant chi.

Wrth feddwl am ddwylo rwy’n meddwl am rai cerddi am ddwylo a chofiaf linellau hyfryd Seamus Heaney sy’n disgrifio gwraig yn smwddio wrth iddi anelu’r haearn smwddio fel awyren at liain.

Hwyrach y bydd smwddio ein hofnau cyn bo hir ond mae’r gred y bydd yn waeth cyn y bydd yn well yn fawr o gysur mewn gwirionedd.

Ond yn ôl yr af, yn awr, i eistedd ar ben allweddell gan obeithio dod o hyd i agoriad. Yn Gymraeg wrth gwrs.

■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom