WELSH COLUMN
MI WELSON ni dalp go dda o hanes Cymru ar y cae rygbi ddydd Sadwrn... fel petai canrifoedd wedi eu gwasgu i ychydig funudau.
Yn union wedi hanner amser; cic hir gan Loegr, Cymru’n dal a’r bêl yn mynd trwy rhyw bedwear pâr o dwylo a thros rhyw ganllath i godi’r dorf goch ar ei thraed.
Am ddwy funud, roedd hi’n ymddangos y gallen ni ennill; petaen ni’n gallu dal ati efo’r math yna o chwarae, fyddai’r Saeson ddim ynddi.
Ond dwy funud oedd hi; mi ailsefydlodd Lloegr eu rheolaeth ar y gêm ac, hyd yn oed heb lawer o’r bêl, mi lwyddon nhw i’n gwthio a’n gwasgu a sicrhau mai Cymru oedd yn gwneud y camgymeriadau.
Mae’n wir iddyn nhw chwarae’n fudr – a chael eu dal unwaith – ac mae’n wir ein bod ninnau wedi cael cyfnod llachar reit ar y diwedd yn erbyn 13 dyn, ond llachar oedd hynny fel y fflach ola’ y bydd fflam yn ei rhoi cyn diffodd.
Does dim angen deall rygbi i weld y ddameg; mae sefyllfa’r tîm ar hyn o bryd yn debyg iawn i sefyllfa’r genedl dros yr wyth canrif ddiwetha’.
Rhwng dwy stôl, yn trio’n galed, yn ysbrydoledig weithiau, ond yn boddi yn llawer rhy bell o’r lan.
Yr hanner cynta’ oedd ymosodiadau’r Sacsoniaid ac wedyn y Normaniaid arnon ni; yn ein gwthio o’r Hen Ogledd yn ne’r Alban a gogledd Lloegr ac yn treiddio i mewn yn ddwfn trwy’r De ac i Ddyfed.
Mae’n debyg mai’r pedwar pâr o ddwylo ar y ffordd at y cais oedd Gruffydd ap Llywelyn, yr Arglwydd Rhys, Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ac Owain Glyndŵr, wrth gwrs, a sgoriodd y ddau gais seithug reit ar ddiwedd y gêm.
Cyn y tymor yma, wrth gwrs, roedden ni wedi cael cyfnod soled. Roedd Offa wedi gorfod codi clawdd ac roedd y ffiniau yn weddol sefydlog. Roedden ni’n ffraeo ymysg ein gilydd, wrth reswm, (ac yn ddigon ffyrnig weithiau) ac roedd y rhanbarthau’n llanast ond, ar wahân i ambell gyrch gan y Gwyddelod a’r Northmyn, roedd pethau’n ddigon sownd.
Erbyn y tymor yma, ryden ni’n dangos tynged y genedl ers tua 1066, hanner ffordd rhwng dau hyfforddwr a dau fath o chwarae – chwarae soled, diedifar Warren Gatland a’r chwarae anturus, ychydig yn anghyfrifol, sy’n ffynnu o dan Wayne Pivac.
Ar ein gorau, yn werth ein gweld, yn lliwgar, yn hwyliog a mentrus. Ar ein gwaetha’, yn gwneud camgymeriadau rif y gwlith ac yn cicio’r bêl yn daclus i freichiau’r gwrthwynebwyr. A’r tîm ar yr ochr arall yn aros i ni chwalu ohonon ni’n hunain.
Cefnogwyr, wrth gwrs, ydi’r rhan fwya’ ohonon ni; eisio ennill ond yn fodlon aberthu hynny er mwyn gweld un cais fel hwnnw yn Twickers ddydd Sadwrn.