Cyfle i ffermwyr newid cyfeiriad
BELLACH fe sylweddolir fod y taliadau sengl uniongyrchol y mae ffermwyr wedi eu derbyn ers degawdau yn dod i ben. O ganlyniad mae wedi ysgogi miloedd o ffermwyr i feddwl am arallgyfeirio er mwyn cynnal eu hincwm.
Golyga 50% o ffermwyr ehangu neu ddatblygu i gyfeiriad arall. Mae Brexit wedi sbarduno arallgyfeirio fel bod y fusnes yn gynaliadwy.
Mae’r llywodraeth wedi cyflwyno cynlluniau amgylcheddol newydd i ffermwyr gyda’r bwriad o wella’r amgylchedd a lleihau allyriadau carbon i geisio arafu newid hinsawdd, gyda ffermwyr yn cael eu gwobrwyo yn ariannol drwy wneud hynny.
Gall fod yna dipyn o amrywiaeth ym mwriadau fferwyr o ran arallgyfeirio, ond yn fynych, twristiaeth a lletygarwch sy’n cael y flaenoriaeth. Deallir fod yna gynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn y nifer o bobl sy’n ymweld â chefn gwlad Cymru.
Gellir gweld y duedd hon yn cynhyddu gyda chymaint o ddiddordeb mewn cerdded ac edmygu gwahanol olygfeydd. Mae gan Gymru amrywiaeth eang o fynyddoedd a golygfeydd anhygoel o brydferth sy’n ymestyn am filltiroedd – cestyll hanesyddol ac arfodir cwbl wefreiddiol. Gyda bwriad y llywodraeth i blannu cymaint o goed, hyderir na chollir y golygfeydd hyn.
Mae ffigurau Defra yn dangos bod arallgyfeirio wedi bod yn gyfrwng i gynhyrchu £740m yn ystod y flwyddyn 2018-19. Ffigwr sydd i fyny 6% ar y flwyddyn flaenorol. Bu tywydd y llynedd yn dderbyniol iawn i ddenu twristiaeth. Gallai’r diwydiant twristiaeth agor y drws i fwy o elw ar gyfer nifer o fusnesau gwledig yng Nghymru.
Ond mae yna rybudd bod rhaid pwyso a mesur yn ofalus, yn enwedig os bydd rhaid gwario arian i addasu adeiladau. Rhaid ystyried lleoliad ac a yw’r ardal yn debygol o ddenu rhagor o ymwelwyr.
Mae ynni adnewyddol wedi cael sylw gan rai ffermwyr. Mae Cymru yn ffynhonnell ffrwythlon o ynni cynaliadwy a gall datblygiadau o ynni dŵr, haul a gwynt fod yn bwysig i economi ffermwyr a chymunedau lleol.
Gyda’r hinsawdd yn cynhesu, gellir ystyried tyfu gwinllannau. Maent eisioes wedi profi’n llwyddiannus mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.
Neu beth am ardd-farchnad gan fod mwy o alw gan y cyhoedd am ffrwythau a llysiau sydd wedi eu cynhyrchu yn lleol.
Cyn gwneud unrhyw benderfyniad, dylid manteisio ar y cyfarwyddyd a geir dan adain “Cyswllt Ffermio”.