Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

AETH yn ddefod i wrando ar y newyddion, er mor ddigalon yw gwneud. Gweld y rhifau yn cynyddu a gwybod bod yna deuluoedd a chyfeillio­n ynghlwm wrth bob un person sydd yn rhan o ystadegyn.

A’r hyn sydd yn ein cynnal ar adeg fel hon yw cadw mewn cysylltiad gyda’r pethau a oedd yn ein cyffroi cyn yr orfodaeth i aros gartref.

Gyda llaw hoffais hysbyseb Aaron Ramsey yn Saesneg, Eidaleg a’r Gymraeg yn annog rhai i “Aros adref”. A dyma wireddu cred Waldo – “Beth yw byw? Cael neuadd fawr, Rhwng cyfyng furiau”. Haws i rai ohonom hwyrach na’r miloedd gafodd glywed i Modi yn India orfodi pawb i’w cartrefi heb rybudd a channoedd os nad miloedd heb le i ddianc iddo – ac yn gorfod cerdded i’w pentrefi ymhell i ffwrdd.

Ymhen amser, daw’r gair “rhybudd” yn air llwythog wrth i wledydd y byd, ninnau yn eu plith, ddadansodd­i hwyrfrydig­rwydd yr angen am ddarpariae­th digonol ar gyfer y fath sefyllfa. Tacteg sobr o wag gan ein gwleidyddi­on hefyd oedd y syniad o guro dwylo i weithwyr yr NHS a’r label ragrithiol i amddiffyn yr NHS. Onid yr un criw sy’n rheoli?

Da clywed Prif Weinidog y DU yn cydnabod bod yna’r fath beth â chymdeitha­s yn bod ond gyda’r ffordd y mae rhai haenau o’n cymdeithas wedi eu trin, mae’r neges yn un sobr o wag.

Ond dof at ambell linell arall o farddoniae­th sydd yn werth ei gofio, un o waith Seamus Heaney, ac er mai terfysgoed­d Gogledd Iwerddon yn y ’70au oedd y sylw, mae’n berthnasol heddi pan ddywed: “If we winter this out, we can summer anywhere”. Neu Rilke sydd yn dweud wrth fardd ifanc: “Chwiliwch eich hun a phlymiwch ddyfnderoe­dd eich bywyd mewnol”. Aiff ymlaen i ddweud y “dylid wynebu cwestiynau bywyd fel pe baent yn stafelloed­d wedi eu cloi neu’n ieithoedd estron”.

Ac rwyf am gloi gyda cherdd ddiweddar sydd ar YouTube gan Alys Conran, un sydd wedi fy llonni ymysg yr holl ddiflastod hwn. Cerdd yw hi am ei thad Tony Conran, y bardd a’r cyfieithyd­d, yn ateb cwestiynau gan fyfyrwraig ifanc ynghylch ei lesiant gan ei fod yn gaeth i’w gartref oherwydd cyflwr bregus ei asgwrn cefn. Gofynnir iddo sut oedd yn ymdopi gyda’r fath sefyllfa ac mae’n ateb drwy ddweud ei fod yn troi’r cartref tu chwith allan neu tu allan tu mewn, gan weld y carpedi fel caeau a nodweddion eraill dychmygus. Ac mae’n gorffen yn orfoleddus. Pan ofynnir iddo sut y mae’n teimlo am ei sefyllfa ei ateb yw – fel brenin mawrfrydig – bob amser yn cael ei gario!

Credaf i Tony, fy nghyfaill, roi gwers i bawb – sut i fyw, a’i gartref bob amser yn hirfelyn hafaidd.

■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom