Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

ANGHOFIWCH flerwch ddarlledia­d nos Sul gyda Boris Johnson a’i ddyrnau’n dynn ar fwrdd.

Dychmygwch ddarlun gwahanol ymysg anhrefn delio â’r firws sy’n rhempio’r gwledydd hyn.

Mae ffiniau Cymru’n cael eu sicrhau er mwyn atal ei ledaeniad. Caiff pob mewnlifiad o bobl mewn ceir eu hatal. Bydd Pont Hafren ar gau. Cyhoeddodd Senedd Cymru y byddan nhw’n rheoli cynnydd y firws drwy’r tracio, cysylltu ac ynysu y rhai sydd, neu a allai gael eu heintio.

Oherwydd y tair miliwn a hanner sydd yn byw yng Nghymru, gellir cadw trac ar y sefyllfa. Bydd clo-fa o hyd ar bob teithio heblaw am y drwydded neu’r app sy’n nodi y rheswm dros bod allan. Ymhen mis neu ddau, daw llacio ar ambell gyfyngiad. Bydd gofal wedi ei sicrhau dros gartrefi gofal. Bydd rheolaeth ein gwlad yn gadarn, a gellir anfon adnoddau dros y ffin i Loegr i’w helpu nhw! Fydd yr Alban wedi dilyn cynllun tebyg eisoes a’r haint dan reolaeth yno. Dim ond Lloegr fydd yn dal i wamalu rhwng y cam hwn neu’r cam nesa: Cam. Cam. Cam. Rhai gweigion.

Achos gwlad fechan yw Cymru. Bu adeg pan own i’n ifanc ac yn credu mewn “Cymru Rydd” y bydde pobl yn chwerthin ac yn dweud ein bod yn wlad rhy fach i fod yn annibynnol. Erbyn hyn, wrth gwrs mae yna wledydd llai na Chymru sydd yn rheoli eu hunain yn llwyddiann­us.

Aeth Prydain yn “sick man of Europe” sydd yn gwadu’r gair Ewrop ac am hwylio ei chwch ei hun ond heb ’run “Cabinet” alle hwylio’n ddiogel i ynys Bŷr. Gallan nhw wastad fyw ar bysgod wedi Brexit gan iddyn nhw fynnu’r hawliau i gyd.

Ac mewn clo-fa – sy’n well na “glofa”, mae’r allwedd i ryddid. Hei, rwy’n credu imi freuddwydi­o go iawn rhyw ddarlun fel hwn. Oni fuom yn wlad oedd yn flaenllaw ym maes glo gyda’r gallu eto ym meysydd technoleg adnewyddol i ffynnu? Cymru werdd go iawn. A daw rhai o Gabinet Lloegr lawr i’n gweld o bryd i’w gilydd i ddysgu oddi wrthym neu astudio’r Alban a fydde hefyd yn annibynnol. Cyddynnu newydd rhwng tair gwlad – achos fe fydd yr Iwerddon yn un wlad unedig hefyd erbyn hynny.

Sdim byd o’i le ar freuddwydi­o oes e? Oni chlywsom y geiriau “men see things as they are and ask why, I dream things that never were and ask why not” o enau John a Robert Kennedy (a Bernard Shaw, cyn hynny).

Wrth gwrs bu menywod hefyd yn breuddwydi­o pethau tebyg. A hwyrach mai menyw fydd wedi creu y brechlyn a fydd yn un i drechu’r firws filain. A byddwn yn cyhoeddi Cymru yn wlad a drodd o ffermio traddodiad­ol i fod yn genedl lysieuol flaenllaw.

O doed y dydd.

■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom