Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH walesonlin­e/cymraeg

UN O’R ychydig bethau da am gyfyngiada­u’r feirws ydi’r cyfle i wneud pethau oedd wedi bod ar y silff gefn ers blynyddoed­d – darllen neu ailddarlle­n ambell lyfr, gwrando CD aeth yn angof neu hyd yn oed wylio teledu.

Er y gallwch chi bellach wylio rhaglenni pryd bynnag sy’n gyfleus, does dim posib dal popeth o hyd. Ac, felly, rhyw ddwy flynedd yn hwyr y dois i ar draws rhaglen am rygbi Cymru...

Na, nid y gêm amlwg y mae pobol yn tyrru i Stadiwm y Principali­ty i’w gwylio, nid gêm Barry John a Gareth Edwards ac Alun Wyn Jones, ond y gêm arall honno oedd yn cael ei difrïo mor ofnadwy trwy’r rhan fwya’ o’r ganrif ddiwetha’ – rygbi’r gynghrair.

Cymwynas fawr cyflwynydd y rhaglen, Carolyn Hitt, oedd tynnu sylw at rai o’r cannoedd – os nad miloedd o chwaraewyr o Gymru – a fentrodd i ogledd Lloegr i chwarae’r gêm ddosbarth gwaith, ddi-drimins honno.

Ei chymwynas fwy oedd tynnu sylw at yr annhegwch oedd wedi eu hanfon nhw yno yn y lle cynta’ – y snobyddiae­th at y gêm “arall”, y diffyg cydymdeiml­ad at chwaraewyr o gefndiroed­d tlawd. Yn fwy na dim, yr hiliaeth.

Does dim amheuaeth fod yna agweddau snobyddlyd, afiach wedi bod yn rhengoedd Undeb Rygbi Cymru am ddegawdau...

Dim ond hynny all esbonio pam fod Billy Boston, un o’r chwaraewyr gorau erioed, wedi methu â chael lle yn ei dîm cartre’ yng Nghaerdydd.

Neu be am Clive Sullivan, nad o’n i erioed wedi clywed amdano fo – y dyn croenddu cynta’ erioed i fod yn gapten ar dîm rhyngwlado­l o wledydd Prydain?

Yn fy mlynyddoed­d rygbi fy hun, ro’n i, fel Carolyn Hitt, yn meddwl mai bradwyr barus oedd y chwaraewyr a drodd gefn ar y gêm amatur a chymryd y geiniog mewn llefydd fel Widnes, Wigan a St Helen’s.

Cofio am Keith Jarrett yn mynd, gwpwl o flynyddoed­d ar ôl chwalu’r Saeson yn ei gêm gynta’ i’w wlad... a’r gêm rygbi gynta’ yr ydw i’n cofio’i gwylio.

Y sioc o weld Jonathan “Jiffy” Davies yn mynd ac yntau’n brif seren Cymru.

Ac wedyn cofio am fynd i weld tîm rygbi’r Gynghrair Cymru yn chwarae ym Mharc Ninian, Caerdydd, pan oedd y rhew’n dechrau meirioli a gweld cyn arwyr undeb fel Tommy David, Steve Fenwick a Paul Ringer yn cael eu talu am eu talent.

Mi orffennodd Carolyn Hitt trwy alw am gofio’r dynion yma. Pam fod Jim Sullivan yn oriel anfarwolio­n Wigan a St Helen’s ond heb ei gofio yng Nghymru? Pam nad ydi Jim Mills yn cael ei gofio ochr yn ochr â rheng flaen Pontypŵl?

Doedd hi ddim yn rhy hwyr i fi weld y rhaglen deledu; dydi hi ddim yn rhy hwyr i gofio’r cewri coll.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom