WELSH COLUMN
AR gyrion lle mor chwaethus ag adeiladau Harvard y deuthum wyneb yn wyneb â’r graffiti Black Lives Matter am y tro cyntaf.
Rwy’n cofio oedi a rhyfeddu er na ddylwn fod wedi gwneud.
A dyma ni, dair blynedd yn ddiweddarach gyda’r un digwyddiad erchyll yn Minneapolis yn dod â’r geiriau hynny i sylw’r byd benbaladr. Ac mae bywydau pobl dduon o bwys. Yn cyfrif fel pob un ohonom. Yr unig wahaniaeth yw ein bod heb gyfrif niferoedd y rheiny a laddwyd ar gam neu’n fwriadol o dan law plismyn sydd yno i ddiogelu cymdeithas.
Yn 1968, fe luniais gerdd hir am George arall, George Jackson o’r “Soledad Brothers”, un a fynegodd ei ddicter at sefyllfa’r bobl dduon yn America. Yn yr un gerdd cyfeiriais at Angela Davis a llawenhau o’i gweld ar CNN neithiwr yr un mor eirias ei barn. Cyfnod terfysglyd ydoedd rhwng protestiadau dros hawliau sifil i’r gwrthdystio yn erbyn rhyfel Fiet-Nam. Ac er imi brotestio yn Llundain gyda’r lluoedd yn gweiddi “Kiss Kiss, Kissinger, how many kids have you killed today?”, yr hyn na wyddwn bryd hynny oedd i fwy o filwyr Affro-Americanaidd farw yno na’u cymrodyr gwyn. Yna, trodd y brwydro at sefyllfa gwrth-apartheid a throsglwyddwyd egni’r protestio tuag at ddileu’r drefn honno.
Beth oedd yn wahanol am farwolaeth George Floyd? Nid methu ag anadlu onid y geiriau “Mama, mama” oedd y rhai mwyaf dirdynnol i mi. Rhwng byw a marw, nid rheg ddaeth o’i geg ond y geiriau syml, ymgeleddol “mama”.
Cafwyd protestiadau yma hefyd a’r galw am dynnu i lawr gofgolofnau, rhai fel Thomas Picton. Gorau po gynted y digwydd hynny. Agoriad llygad i mi oedd darllen am ei hanes yn llywodraethu yn Trinidad a’r achos am arteithio merch pedair blwydd oed.
Yr unig dro imi deimlo fel yr oedd y bobl dduon yn ei deimlo oedd pan oeddwn yr unig berson gwyn yn mynd trwy Harlem, yn hwyr y nos pan oeddwn yn gweithio yn Efrog Newydd. Rhyfeddais bryd arall wrth deithio i rai o daleithiau’r de fel De Carolina a gweld graffiti Ku Klux Klan i fyny o hyd ar sgubor. Dyma realiti beunyddiol y bobl ddu wrth fyw wyneb yn wyneb â diffyg trugaredd y gorffennol hyll.
Wrth gwrs, mae gweld torfeydd yn ymgasglu heb bellhau cymdeithasol yn broblem enbyd a’r feirws yn dal ar dramp. Ond mae diffyg y llywodraeth i gyhoeddi darn o adroddiad am yr effaith a gaiff y feirws ar rai pobl ethnig yn warthus, ac yn parhau’r gred nad yw’r blaid Geidwadol yn malio am yr effaith a gaiff arnynt. Neu’n ofni’r adlach iddynt bleidleisio dros blaid sydd am gadw grym yn eu dwylo purwyn.
Feirws neu beidio, dyw cadw draw o’r testunau poenus yma’n gwella neb ohonom.
■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant