Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

OEDDECH chi’n arfer casglu arian at y Genhadaeth Dramor? A ninnau’n Fethodisti­aid Calfinaidd bach da, roedd yna focs yn tŷ erstalwm.

Roeddan ni hefyd yn canu emynau digon doji mewn llefydd fel y Bandohôp hefyd... ond mi aeth y rheiny i ebargofian­t, fel yr addewid i ymwrthod rhag y ddiod gadarn.

Eto, wrth i’r drafodaeth lifo yn ôl ac ymlaen am gaethion a’r Ymerodraet­h a lle Cymru yn y stori, mi ddaeth yr hen flwch cenhadol yn ôl i’r cof.

Ar wahân i rai milwyr ac ambell ddiplomat, gwas sifil a pherson busnes, mae’n debyg mai cenhadon oedd ein cyfraniad mwya’ ni at yr Ymerodraet­h.

Mae’n amheus a oedden nhw’n sylweddoli’n llawn eu bod nhw’n rhan o brosiect imperialai­dd wrth adael ar eu llongau ar deithiau wythnosau o hyd i bellafoedd y ddaear.

O feddwl am eu hymroddiad ac o ddarllen eu geiriau, mae’n amlwg fod y rhan fwya’n credu’n ddwys eu bod yn gweithredu er lles pobl, trwy eu “hachub” rhag bod yn baganiaid.

Ond rhan o nod llywodraet­hau fel rhai Prydain oedd newid ffordd o fyw pobl – mewn ffordd a fyddai’n eu gwneud nhw yn haws eu trin a’u rheoli ac yn fwy o ran o’r Ymerodraet­h a’i diwylliant Seisnig hi.

Tybed oedd cenhadon Cymru’n wahanol? Oedd eu cefndir nhw, eu gwreiddiau di-fraint, eu hagosatrwy­dd at y tir a’u dealltwria­eth o iaith a diwylliant gwahanol... oedd hynny’n newid eu hagwedd?

Mi ddaeth y cwestiwn yna i’r meddwl – ochr yn ochr â’r blwch cenhadol – wrth baratoi i wneud sgwrs i raglen Radio Cymru, Dros Ginio, am ddyn o’r enw William Hughes a stori ryfeddol Congo House yn nhref ffyniannus Bae Colwyn.

Fel nifer o genhadon Cymraeg eraill – o Helen Rowlands a chenhadon Bryniau Casia yn India i Timothy Richard yn Tsieina neu David Jones ym Madagascar – roedd William Hughes eisiau i Gristnogae­th lwyddo yn y gwledydd pell trwy ymdrechion y bobl eu hunain, bron ar eu telerau nhw.

Ac mi ddaeth rhywbeth arall i’r co’ ac i lawr o’r llwch ar y silffoedd – llyfr i blant am John Davies, Tahiti, oedd wedi ei sgrifennu gan ddyn annwyl a galluog o’r enw Hydwedd Boyer a fu, cyn ei farwolaeth ifanc, yn athro hanes i fi am dymor neu ddau.

Roedd John Davies, fel y gweddill, yn rhoi pwyslais ar ymdoddi i’r bywyd lleol – roedd o fel cenhadon Madagascar wedi rhoi trefn lenyddol ar yr ieithoedd lleol a William Hughes wedi sicrhau cyhoeddi emynau yn iaith y Congo am y tro cynta’ erioed.

Rhywsut, mae’n rhaid i ni ddod i delerau efo’r hanes yma. Wrth gwrs fod yna rywbeth nawddoglyd mewn mynd i wlad arall er mwyn eu “diwyllio” nhw ond, ar ôl cyrraedd, roedd y Cymry fel petaen nhw’n closio at y bobl leol.

Rhan o glwyfau’r Ymerodraet­h, neu eli ar y briw? Dewiswch chi.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom