Methiant i newid mesur yn siom i’r diwydiant amaeth
MAE yna farn gref nad yw’r diwydiant amaethyddol yn cael y gydnabyddiaeth ddyledus gan Lywodraeth San Steffan.
Daeth hyn i’r amlwg pan gafodd gwelliant i’r Mesur Amaethyddiaeth ei drafod yn y Senedd yn ddiweddar.
Nod y gwelliant oedd amddiffyn ffermwyr Prydain rhag mewnforion rhad nad ydynt yn cael eu cynhyrchu i’r un safonau. Yn anffodus cafodd y gwelliant ei drechu gan yr Aelodau Seneddol gyda Cheidwadwyr Cymru yn pleidleisio yn ei erbyn a nifer o aelodau seneddol eraill sy’n cynrychioli ardaloedd cefn gwlad.
Roedd hyn yn siom enfawr i ffermwyr, undebau amaethyddol a chyrff eraill a oedd wedi ymgyrchu yn galed i geisio argyhoeddi’r aelodau seneddol.
Rhybuddiwyd y byddai mewnforio cynhyrchion a’r rheini heb gyrraedd gofynion y wlad yma yn niweidiol ac yn tanseilio dymuniad cryf y cyhoedd i gael bwyd wedi ei gynhyrchu mor lleol â phosib ac mewn modd cynaliadwy ac eco-gyfeillgar.
Byddai gwelliant i’r mesur wedi amddiffyn cynhyrchwyr a defnyddwyr Cymru. Gall hyn agor y drws i deuluoedd brynu bwyd rhatach yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.
Cydnabyddir cynnyrch Cymru fel y gorau yn y byd o ran iechyd a lles i’r amgylchedd. Rhaid cydnabod fod cyrraedd y safonau angenrheidiol yn golygu ymdrech a chostau ychwanegol.
Tybed a oedd y 400 tunnell o gig a fewnforiwyd o Wlad Pwyl yn ddiweddar gan yr archfarchnadoedd yn cyrraedd gofynion y wlad yma?
Bellach mae’r mesur wedi cael ei gyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi ar gyfer ail ddarlleniad a deallir eu bod am gefnogi’r gwelliant.
Mae Llywodraeth Prydain wedi penderfynu na fyddant, am y tro, yn gwneud archwiliad manwl o’r cynnyrch a’r nwyddau a fydd yn cael eu mewnforio oherwydd argyfwng Covid-19.
Deallwn fod trafodaethau chwyrn yn digwydd rhwng gweinidogion Boris Johnson a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r Prif Weinidog wedi rhybuddio y bydd yn tynnu nôl o’r trafodaethau ddiwedd y mis yma oni bai fod yna amlinelliad o gytundeb boddhaol cyn diwedd y flwyddyn.