#CaruCymruCaruBlas yn erfyn ar siopwyr i ddangos eu ‘cariad’ tuag at ddiwydiant bwyd a diod Cymru
FFORDD O DDIOLCH I’R GWEITHIO’N DDI-BAID I FWYDO’R GENEDL YN YSTOD PANDEMIG Y CORONAFEIRWS
ERFYNNIR ar siopwyr i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr allweddol yn niwydiant bwyd a diod Cymru drwy gymryd rhan mewn ymgyrch arlein newydd, #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste.
Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru yn annog pobl i barhau i gefnogi cynhyrchwyr a manwerthwyr drwy brynu cynnyrch bwyd a diod Cymru.
Mae #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn ffordd o ddiolch i’r rheiny sy’n gweithio’n ddibaid i fwydo’r genedl yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mae cynhyrchwyr, manwerthwyr a’r sector lletygarwch wedi cael eu taro’n galed gan y pandemig.
Roedd rhaid i rai busnesau gau dros nos, ond mae llu o fentrau wedi dangos dyfeisgarwch a hyblygrwydd anhygoel, gan barhau i gynhyrchu a darparu nwyddau dan amgylchiadau eithriadol.
Mae’r ymgyrch yn dechrau gyda ‘Diwrnod Dathlu Bwyd a Diod Cymru,’ sy’n cynnwys pob rhan o’r gadwyn gyflenwi.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni wedi gweld ac wedi clywed am y llawer o enghreifftiau gwych lle mae unigolion a busnesau wedi mynd i’r afael â’r heriau mae Covid-19 wedi eu peri.
Nawr hoffen ni ddweud yn gyhoeddus pa mor ddiolchgar rydyn ni i’r holl weithwyr yn ein diwydiant bwyd a diod. Maen nhw wedi parhau i gynhyrchu bwyd gwych ac wedi parhau i fwydo ein cenedl drwy’r cyfnod hwn na welwyd mo’i debyg o’r blaen.
Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi busnesau bwyd a diod Cymru. Dyma pam rydyn ni’n lansio’r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste i annog cwsmeriaid i barhau i gefnogi ein cynhyrchwyr a’n manwerthwyr drwy brynu bwyd lleol uchel ei ansawdd o Gymru.”
Mae’n hawdd dod o hyd i gynhyrchion bwyd a diod o Gymru i’w prynu. Mae tua 3,700 o wahanol gynhyrchion i’w gweld ar silffoedd manwerthwyr ledled Cymru, yn ogystal â llawer o frandiau i’w prynu ar-lein.
Mae ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn dod ar ôl y map cynhyrchwyr llwyddiannus a gafodd ei greu gan Cywain, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Menter a Busnes. Mae Cywain yn rhaglen wedi’i neilltuo i ddatblygu busnesau micro, bychan a chanolig newydd, yn ogystal â busnesau sydd eisoes yn bodoli, yn sector bwyd a diod Cymru.
Drwy glicio ar fap Cywain #CefnogiLleolCefnogiCymru mae siopwyr yn cael eu cyfeirio at gannoedd o gynhyrchwyr a chynhyrchion bwyd a diod yng Nghymru.
Dywedodd Elen Llwyd Williams, Cyfarwyddwr Menter a Busnes: “Mae bellach gannoedd o gynhyrchwyr yng Nghymru yn gwerthu ar-lein ac yn cynnig opsiynau diogel ar gyfer cludo nwyddau i gwsmeriaid.
Mae cwsmeriaid ledled Cymru wedi bod yn wych wrth gefnogi cynhyrchwyr lleol yn ystod y pandemig, ac mae angen i hyn barhau er mwyn sicrhau bod busnesau’n goroesi.
Mae Cywain yn cefnogi nifer o fusnesau gyda’u presenoldeb ar-lein, ac yn sicrhau bod cynhyrchwyr a chynhyrchion yn cael eu hychwanegu at y map ar-lein yn rheolaidd.”
Mae cynhyrchwyr a manwerthwyr wedi bod yn lawrlwytho pecynnau’r ymgyrch digidol yn barod ar gyfer ‘Diwrnod Dathlu Bwyd a Diod Cymru.’ Mae dau ddiwrnod arall o ddathlu bwyd a diod Cymru wedi eu cynllunio ar gyfer mis Awst a mis Medi.
Dywedodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: “Wrth i ni lansio’r diwrnodau o ddathlu hyn, rhaid i ni barhau i fod yn hyderus i dyfu a chanolbwyntio ar werth ychwanegol. Rydyn ni wedi gweld cynhyrchwyr yn arallgyfeirio, gan helpu’r GIG a bwydo’r genedl. Dylen ni barhau i ymfalchïo ym mwyd a diod Cymru wrth i ni weithio gyda’n gilydd i adfer o’r argyfwng.”