WELSH COLUMN
GOLYGFA gyfarwydd bellach – ar y teledu os nad yn y cnawd – ydi gweld pêl-droedwyr yn ymostwng ar un ben-lin i gefnogi’r neges fod bywydau pobl dduon yn cyfri.
Peth dychrynllyd ydi gorfod dweud y fath beth... ond mae yna ddau beryg hefyd... a llwyddiant yr ymgyrch sy’n gyfrifol am hynny.
Un peryg ydi fod hyn yn troi’n sioe a mynd trwy’r mosiwns – fel clapio i weithwyr gofal ac wedyn eu diystyru.
Yr ail beryg ydi anghofio am anghyfiawnderau eraill... er enghraifft, yr hyn oedd wedi digwydd yn yr
Unol Daleithiau ac ynysoedd y Caribî hyd yn oed cyn i gaethwasiaeth gyrraedd.
Mi fyddwn ni orllewinwyr yn aml yn sôn am bobl fel Columbus neu’r Capten Cooke yn ‘darganfod’ y lle a’r lle, fel petai’r tiriogaethau yma yn hollol wag pan gyrhaeddon nhw. Ond roedd yna bobl yno a, gwaetha’r modd, amser gorffennol y ferf sydd ei angen.
Yn Nhrinidad, er enghraifft, lle’r oedd y Cymro, Thomas Picton, yn creu braw, mi ddewch chi ar draws gwahanol bobloedd sy’n cyfleu hanes y wlad... y gwynion oedd yn rheoli, disgynyddion y caethion, a’r bobl o India a Tsieina a ddaeth yno wedyn yn weithwyr lled-gaeth.
Y bobl na welwch chi mohonyn nhw ydi’r brodorion gwreiddiol, y rhai oedd ar yr ynysoedd ymhell cyn Columbus a’i fath. A dyna’r stori mewn amryw o wledydd y byd, weithiau oherwydd afiechydon pobl wyn, weithiau oherwydd creulondeb, mi gafodd hiliau cyfan eu dinistrio.
Yn Awstralia, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd, mae’r brodorion yn ddychrynllyd o brin ac yn dal i ddiodde’ gannoedd o flynyddoedd ers i’w gwledydd gael eu cipio.
Dydi eu dioddefaint nhw’n lleihau dim ar erchylltra caethwasiaeth, ond mae’n haeddu cael ei gofio hefyd.
Ychydig llai na hanner canrif yn ôl mi ddaeth enw llwyth y Navajo yn gyfarwydd i siaradwyr Cymraeg, yn rhannol oherwydd fod amryw wedi darllen llyfr dwys Dee Brown, Bury My Heart at Wounded Knee, a rhagor trwy ganeuon Tecwyn Ifan.
Heddiw, mae’r Navajo yn dal i ddiodde’. Maen nhw wedi eu cyfyngu i “wlad” o dir sâl sy’n croesi ffiniau rhai o’r taleithiau swyddogol ac maen nhw’n byw mewn amgylchiadau anodd a thlawd. Mor anodd fel bod pandemig y Covid-19, erbyn canol mis Mai, wedi effeithio arnyn nhw’n waeth nag unrhyw bobl eraill yn yr Unol Daleithiau i gyd.
Nid hen, hen stori ydi stori brodorion America; roedd y lladd, y gorchfygu a’r twyll yn dal i ddigwydd hyd at ychydig dros ganrif yn ôl ac mae’r annhegwch yn parhau.
Fydd newid enw clwb pêl-droed Americanaidd o Redskins i rywbeth arall ddim yn gwneud iawn am hynny ond gobeithio y bydd ymgyrch y bywydau duon yn agor y drws i fywydau eraill hefyd.