Western Mail

Pam dewisais i ddychwelyd yn ôl i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd

- Mae’r cwrs BA Anrh Rheoli Digwyddiad­au yn gymwys ar gyfer Ysgoloriae­th Cymhellian­t y Coleg Cymraeg Cenedlaeth­ol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymgeisio ewch astudio.cardiffmet.ac.uk

HELO! Fy enw i yw Hannah a dwi newydd orffen yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Reoli yn astudio Rheoli Digwyddiad­au.

Er fy mod i wedi derbyn fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg roeddwn yn ansicr os oeddwn am ddychwelyd yn ôl i’r brifysgol i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl tair blynedd o beidio siarad yr iaith.

Mae’n rhaid dweud roedd dewis dod yn ôl i’r brifysgol yn benderfyni­ad anodd ac roeddwn yn poeni am ddychwelyd yn ôl i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl peidio ymarfer yr iaith am gwpwl o flynyddoed­d.

Yn lwcus, yn fy ail ddiwrnod cyflwynodd Kelly Young ei hun fel y darlithydd Cymraeg ar fy nghwrs ac yn ffodus roedd rhai o’r modiwlau wedi cael ei dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Roedd gen i nifer o gwestiynau, megis “Bydd y modiwlau yma yn datblygu fy ngallu yn yr iaith?

Neu byddwn yn ffeindio’r modiwlau yn heriol gan fy mod i ddim wedi gallu siarad yr iaith am dair blynedd.

Ar ôl cael sgwrs gyda Kelly a thrafod sut mae’r brifysgol yn trin a modiwlau dwyieithog, roeddwn yn sicr fy mod i am astudio rhan o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers hynny, fe benderfyna­is astudio dau fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg a dwi hefyd wedi ymuno a chymdeitha­s ‘GymGym Cymraeg,’ i neud ffrindiau gyda myfyrwyr cyfrwng Cymraeg eraill.

O fy mhrofiad i, byddwn yn annog pawb i geisio astudio yn y Gymraeg gan ei fod yn rhoi cyfle i chi barhau i ymarfer yr iaith o gwmpas eraill sydd hefyd yn ceisio gwella eu hiaith.

Nid oes angen i’ch Cymraeg fod yn berffaith i astudio yn Gymraeg gan fod cymaint o gymorth ar gael i’ch helpu.

Mae’n gyfle gwych i ddod yn rhan o gymdeithas gyfeillgar lle gallwch wneud cynnydd ar gyflymder sy’n siwtio chi.

 ??  ?? Hannah Martinson BA Anrh Rheoli Digwyddiad­au
Hannah Martinson BA Anrh Rheoli Digwyddiad­au

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom