Cewch ddigon o le ym Mhrifysgol Abertawe
Y FFEITHIAU:
MAE dewis prifysgol yn benderfyniad mawr, yn enwedig mewn byd llawn ansicrwydd oherwydd Covid-19.
Beth am ganiatáu i Brifysgol Abertawe gyfrannu at eich llwyddiant? Efallai fod mynd i’r Brifysgol eleni’n destun pryder i chi, ond bydd y myfyrwyr a ddaw eleni’n dangos uchelgais, gwydnwch a hyblygrwydd i gyflogwyr yn y dyfodol.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn dal i gael y profiad gorau posib, yn academaidd ac yn bersonol.
Byddwn yn cynnig dysgu cyfunol, gan gyflwyno darlithoedd mawr ar-lein, a rhai sesiynau llai ar y safle. Rydym yn gweithio gydag undeb y myfyrwyr i gyflwyno digwyddiadau diogel i lasfyfyrwyr lle gallwch wneud ffrindiau a chael hwyl.
Rydym wedi sicrhau bod ein campysau’n ddiogel, gan osod cyfleusterau diheintio dwylo a sgriniau, yn ogystal â systemau unffordd.
Rydym yn brifysgol campws, ger traeth, sy’n agos at ardal o harddwch naturiol eithriadol, felly mae digonedd o le i’n myfyrwyr fwynhau eu hunain.
Wrth i ddiwrnod y canlyniadau nesáu, rhowch gynnig ar Abertawe ym mis Medi.
■
■ Y Brifysgol orau yng Nghymru (yn ôl Canllaw Prifysgolion Da 2020 The Times a The Sunday Times)
■ Yn y 6 uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr (NSS 2020)*
■ 5ed yn y DU am ragolygon gyrfa (Gwobrau Prifysgolion 2020 The Guardian)
■ Dyfarniad aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Llywodraeth y DU *yn ôl rhestr o’r 131 o brifysgolion a ddefnyddiwyd i lunio Canllaw Prifysgolion Da 2020 The Times