Mae’r dywediadau cefn gwlad yn drysorau amhrisiadwy
TYBED a sylweddolir cymaint o wirioneddau sydd mewn hen ymadroddion sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a chefn gwlad.
Perthyn i’r iaith Gymraeg, fel i bob iaith arall, hen draddodiad o greu ymadroddion hynafol yn deillio o ffeithiau perthnasol a barn sy’n gyffredin i’r ardal neu’r Sir.
Mae’r dywediadau yn drysorau amhrisiadwy sydd wedi cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall ac yn rhan o’n hetifeddiaeth gyfoethog. Roedd hyn cyn dyddiau’r oes dechnegol a digidol y daethom mor gyfarwydd a hi.
Yn anffodus, mae’n rhaid cyfaddef bod ymadroddion yn cael eu defnyddio yn llawer llai mynych ac yn llai cyffredin nag arfer.
Gall hyn fod yn achos gofid wrth i’r ymadroddion fynd ar goll yng nghefn gwlad yn sgil mewnlifiad.
Maent yn cynnwys gwirionedd ac yn cyflwyno agwedd ar addysg wrth i’r ymadrodd amlinellu mewn ffurf ymarferol.
Gall ymadroddion fod yn wahanol iawn i ddiarhebion sydd yn aml wedi eu gwisgo mewn iaith brydferth a barddonol. Yn aml bydd yr ymadrodd yn amwys ar y darlleniad cyntaf a bydd yr ieithwedd i’w phriodoli i ansawdd ac arfer y cyfnod y’i hysgrifennwyd ynddi.
Dyma rai ymadroddion sy’n briodol i fis Mehefin, un o’r misoedd pwysicaf i ffermwyr.
Eleni cafwyd tywydd crasboeth ddechrau’r mis gan arafu’r tyfiant a llosgi porfa lle nad oedd dyfnder daear.
Gwelwyd tir âr gyda’r egin mewn cyflwr truenus oherwydd y sychder, ond fe ddaeth y glaw cyn diwedd y mis. Newidiwyd y cyfan mewn byr amser gyda’r tyfiant nol yn ei lawn dwf.
Dyma felly gyfiawnhau’r ymadrodd am fis Mehefin gwlyb, os daw peth yn sych a pheth yn law – “Na feia dy egin cyn diwedd Mehefin”. Profwyd hyn eleni.
Pa mor gyfarwydd yw’r ymadrodd – “Os clywir y gwcw ar ol troad y dydd (Mehefin 21ain fel rheol) Haf gwlyb a geir”. Tybed a glywodd rhywun y gwcw ar ol y dyddiad hwn eleni?
Bu’r tywydd ym mis Mehefin eleni yn fendithiol i ddyn ac anifail gyda digon o ogor gogyfer a’r Gaeaf.
Gyda chymaint o newid yng nghefn gwlad Cymru, ymdrechwn i ymarfer yr hen ddywediadau gan “hyfforddi plentyn ym mhen ei ffordd” ar glos y fferm ac yn yr ystafell ddosbarth.