WELSH COLUMN
CEFAIS syndod rai blynyddoedd yn ôl pan holais griw o fyfyrwyr hŷn pa bapurau newyddion yr oedden nhw’n eu darllen. Gan mai astudio ar gyfer Gradd Meistr Ysgrifennu Creadigol oedden nhw, teimlwn yn hyderus eu bod yn awchu am ddarllen testunau llosg y dydd.
A hynny, ar wahân i ddarllen llenyddiaeth ysgafn neu drom. Neb. ŷO’r dwsin yn y grŵp doedd neb yn darllen papur newydd heb sôn am brynu ambell gopi. Roedd hyn cyn i’r We ffrydio newyddion fesul eiliad. Yr wythnos wedyn, es â bwndel o bapurau newyddion i’r dosbarth a mynnu eu bod yn darganfod hadau straeon neu destun drama neu gerddi ynddynt. Efallai heddi y byddai llywodraeth Boris yn credu y gallai algorithm lunio drama’n well na chyw -ysgrifenwyr yn eu hoed a’u hamser!
A minnau wedi ysgrifennu colofn yn y papur hwn ers chwarter canrif bellach, braf oedd darllen ‘Trysorau Coll’, Caradog Prichard, o Wasg y Lolfa a olygwyd yn ofalus gan J. Elwyn Hughes. Cyfrol o lythyrau ac yn eu plith Caradog Prichard fel newyddiadurwr gyda’r Western Mail cyn symud i Stryd y Fflyd. Ceir bardd arall a gyfrannodd i’r Western Mail , John Eilian cyn i hwnnw symud i weithio ar bapurau mor amrywiol â’r Macedonia Times a’r Iraq Times. Tipyn o naid.
Ond beth am newyddion ein dyddiau ni?. Aeth Priti Patel â chriw fideo personol ei hun i drosglwyddo’r newyddion am y trueniaid sy’n croesi’r Sianel yn ddyddiol gan osgoi gohebwyr go iawn. Hysbysebwyd yn ddiweddar am lefarydd i Boris Johnson fydd yn cynnal cynadleddau’r wasg a ‘rheoli’r newyddion. Bydd hyn, wedi’r cyfan yn osgoi rhai fel Gavin Williamson i orfod gwneud cyfweliad trychinebus ar radio 4 am helynt Safon A. Aeth newyddiaduraeth yn air budr mewn sawl gwlad bellach gyda newyddiadurwyr yn wynebu sen yn ôl yr alwad gan unben neu bennaeth sy’n ofni colli ei ben, a’i arglwyddiaeth. O, sôn am arglwyddi, mae hynny’n stori arall a ryddhawyd adeg gwyliau os oes y fath beth â gwyliau bellach.
Ond nôl at y ‘Western Mail’ a’r wasgfa ar gludwyr newyddion. Braf oedd darllen am un arall a fu’n rhan o’r llanw mawr. Caradog ei hun sy’n rhoi teyrnged iddo yn y North Wales Weekly News ym mis Tachwedd, 1973 : ‘ Owen Picton Davies oedd un o’r newyddiadurwyr Cymraeg mwyaf crefftus a fagodd Cymru erioed’. Byddent yn gweithio tan ddau o’r gloch y bore ar y Western Mail gyda Caradog hefyd ar fwrdd is-olygyddol y papur yn bwrw ei brentisiaeth. Cyhoeddodd hunangofiant sydd, meddai Caradog ‘yn batrwm perffaith o’r math yma o lyfr ‘ Atgofion Dyn Papur Newydd’.
Edrychaf ymlaen at ddarllen y llyfr hwn yn ogystal â bod yn ddiolchgar am bob newyddiaduraeth sydd yn bwrw golwg ar Gymru. Diolch i Nation. Cymru . Hynny yn ddiatalnod!
■ Mae Dr Menna Elfyn yn Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant