WELSH COLUMN DYLAN IORWERTH
UN O bleserau’r cyfnod clo oedd dod i adnabod dynes a fu farw 40 mlynedd yn ôl. A theimlo’n flin na ches i’r cyfle i’w chyfarfod pan oedd hi’n fyw.
Trwy ei geiriau y des i’w hadnabod hi; trwy ffrwd o eiriau tafodieithol, trwy ddywediadau bachog ac, yn fwy na dim, trwy ddarluniau lliwgar a chraff o’r cymeriadau a’r gymdeithas o’i chwmpas tros 100 mlynedd yn ôl.
Trwy’r rheiny dw i’n teimlo fy mod i hefyd wedi dod i adnabod diwylliant gwledig Cymru ar droad yr 20fed ganrif, yn llawer gwell nag a wnes i erioed o’r blaen.
Mae’r geiriau ar gael bellach mewn cyfrol o’r enw Haf Bach Mihangel ac enw’r ddynes nodedig ydi Kate Davies, ond mai Kate Ardwyn oedd hi i bawb yn nyffrynnoedd Cletwr a Cherdin ac ym mhentrefi Pren-gwyn, Maesymeillion a Phontsian, i’r gogledd o Landysul.
Ro’n i’n lwcus i fod yn un o’r tri fu’n tynnu’r geiriau at ei gilydd i’w cyhoeddi – dyfyniadau o gyfrol o atgofion ganddi, penillion o ganeuon a cherddi amser rhyfel a phigion o lawysgrif “newydd sbon” sy’n gyhoeddus am y tro cynta’.
Nid sgrifennu amdani ei hun yr oedd Kate Davies ond am y clytwaith lliwgar o’i chwmpas, yn bobl, digwyddiadau, tueddiadau ac arferion. Nid dweud wrthon ni sut yr oedd pethau ond ein gwneud ni’n rhan ohonyn nhw.
Os oedd gan DJ Williams filltir sgwâr yn Rhydcymerau, milltir gron oedd gan Kate Davies a hithau’n rhoi ei breichiau am y cyfan. Ac mae yna gylch arall hefyd, cylch y flwyddyn, o dymor i dymor, o ŵyl i ŵyl ac o ffair i ffair.
Prin y mae’r stori’n gadael y ffilltir honno – dim ond ambell ymweliad â threfi bach fel Llanbed neu Lanybydder a thripiau i Gei Newydd neu Gwmtydu. Fel arall, mae hi’n gymdeithas gyfan, a bywyd yn gyflawn o’i mewn.
Dyna pam fod y gyfrol yma’n rhyfeddol o addas at ein dyddiau ni. Doedd pobl ddim yn teithio llawer ac roedd digwyddiadau cymdeithasol bychain yn rhan fawr o’u blwyddyn nhw... yn debyg i’r ffordd y mae ambell drip bach neu amrywiad mewn bywyd yn atalnodi’r cyfnod Covid.
Wrth lansio’r gyfrol ym Maesymeillion ddydd Sadwrn, ac adeg dadorchuddio plac i Kate Davies ar wal Ardwyn, mi welodd y cyn-AS Cynog Dafis wers arall hefyd – y gwrthgyferbyniad rhwng bywyd cynnil, syml y dyddiau hynny a’r gormodedd sy’n creu llanast yn ein dyddiau ni.
Er hynny, nid darlun sentimental mo hwn – roedd bywyd yn galed a moethau’n brin a hithau’n disgrifio’r cyfan mewn iaith gyfoethog a gyda gallu mawr i ddewis manylion a ffordd fachog o ddweud. Ac mae Kate Davies yn enghraifft lachar ond yn cynrychioli bywydau miloedd ar filoedd o fenywod oedd yn cynnal eu cymdogaethau.
Cyfoeth lleol sy’n creu trysor cenedlaethol o lyfr.
Mae modd prynu Haf Bach Mihangel am £10 a phris postio trwy gysylltu â hafbachmihangel@gmail.com