WELSH COLUMN
STORI bapur newydd yr wythnos yma oedd hi, ond mi wnaeth i fi feddwl am stori sy’n ganrifoedd, os nad miloedd oed, un o chwedlau mwya’ Cymru.
Yr wythnos yma y daeth y newyddion am ddarganfyddiadau newydd ger glannau gogledd Lloegr yn datgelu ychydig mwy am hanes Doggerland, y wlad o dan y dŵr.
Y tir hwnnw oedd yn arfer cysylltu gwledydd Prydain efo tir mawr Ewrop ond, erbyn tuag 8,000 o flynyddoedd yn ôl, mae’n debyg, roedd wedi dechrau diflannu.
Yna yn sydyn, wrth i wal anferth o rew doddi yn y gogledd pell, mi gododd y môr yn sydyn ac mi lifodd tonnau tswnami a boddi bron y cyfan o Doggerland unwaith ac am byth.
Ac, wrth ddarllen, yn naturiol, meddwl am Gantre’r Gwaelod wnes i. Tybed ai digwyddiad tebyg – yr un digwyddiad efallai – a foddodd y tiroedd ffrwythlon rhyngon ni ac Iwerddon gynt?
Mae rhai arbenigwyr yn sicr yn credu mai rhyw hen hen go’ am drychineb tebyg sydd y tu cefn i’n stori ni a’r cenedlaethau wedi ychwanegu manylion i siwtio’u cyfnodau eu hunain.
Yn un fersiwn, merch sy’n cael y bai am achosi’r drwg; mewn un arall, y ddiod gadarn, a ninnau, erbyn heddiw, yn rhyw weld y stori’n ddameg am gyflwr yr iaith a chymunedau cefn gwlad.
Un o’r straeon mwya’ cyffredin ydi stori tywysoges y tylwyth teg yn priodi’r mab ffarm cyffredin. Mae hi’n bod dan enwau gwahanol ac efo manylion gwahanol mewn sawl ardal yng Nghymru. Ond mae hanfod y stori’r un peth.
Ynddyn nhw i gyd, mae’r ferch o fyd hud a lledrith yn diflannu pan fydd ei gŵr yn ei tharo’n anfwriadol dair gwaith efo darn o haearn.
Rhyw hen hen go’, meddai rhai, o bobloedd newydd yn dod i Brydain yr Oesoedd Cerrig – nhw ac arfau haearn.
A be am y tylwyth teg? Y bobol fach? Un esboniad posib ydi eu bod nhw’n atgo’ o hil wahanol o ddynoliaeth – Neanderthaliaid efallai – oedd yn arfer byw yma cyn i’n hil ni eu disodli nhw. Mae llawer o straeon y tylwyth teg yn gymysgedd o ofn a pharch.
O ystyried hyn i gyd, mi foelodd fy nghlustiau ychydig wythnosau’n ôl wrth glywed trafodaeth ar y radio am ddigwyddiad anferth arall yn ôl tua 535 Oed Crist – y tro yma llosgfynydd yn ffrwydro.
Trwy ddadansoddi haenau rhew yn yr Ynys Las a’r Antartig, mae gwyddonwyr yn gwybod bod misoedd o oerfel a thywyllwch wedi bod yn y cyfnod hwnnw. Mae rhai disgrifiadau’n sôn am fath o niwl trwchus ac am blanhigion a phobl yn marw.
Yr Hud ar Ddyfed, medda finnau, gan rhyw hanner cofio’r stori o’r Mabinogi am flwyddyn o niwl yn effeithio ar orllewin Cymru.
Dim ond stori... tybed?