Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN ■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant walesonlin­e/cymraeg

WEITHIAU, mae’r byd i weld yn sobr o chwithig. Ar yr union adeg pan mae galw mawr am ocsigen yn India i wrthsefyll y Covid yno, mae llawenhau bod Nasa yn cyhoeddi bod ocsigen wedi ei gynhyrchu o garbon deuocsid ar blaned Mawrth. Rhyfedd o fyd.

Ddoe hefyd yr oeddwn yn ceisio canslo darlleniad i griw o feirdd yn India, gan ddweud y byddwn yn deall yn iawn nad dyma’r adeg i gynnal digwyddiad o’r fath. Dim o’r fath beth oedd yr ateb. Dyma’r union bryd y mae eisiau barddoniae­th arnom a ninnau dan glo oherwydd y feirws. Felly, doedd dim amdani ond cadw at fy addewid. Er teimlo elfen o chwithdod hefyd.

Tybed faint o chwithdod a deimlodd Paula Vennells, un a fu’n Bennaeth y Swyddfa Bost pan gyhuddwyd 736 o bostfeistr­i ar gam o ddwyn? Roedd gweld eu llawenydd, a’u dagrau, wedi iddynt ennill eu hachos yn deimlad chwerwfely­s. Rwy’n cofio’r achosion hyn, yn cofio carcharu pobl dda ein cymunedau, yn gynghorwyr ac yn hoelion wyth cymdeithas. Cafodd un fenyw feichiog ei charcharu er i’r barnwr grynhoi nad oedd tystiolaet­h uniongyrch­ol iddi fod wedi dwyn yr arian. Ond dringo mannau uwch a wnaeth y Prif Weithredyd­d a dyrchafu i safleoedd eraill o rym. Cael hyd yn oed CBE wrth ei henw. Cam Bost Enbyd. Da clywed ei bod yn camu yn ôl o’i galwedigae­th yn arwain bywydau ysbrydol aelodau o’r Eglwys.

Ac wrth feddwl am ddringo, diddorol oedd gweld bod ymweld â’r Wyddfa o hyn allan yn golygu gwell trefniadae­th. Mae’n rhaid bwcio mannau i barcio 24 awr ymlaen llaw. Eitha reit hefyd. Y bwriad mae’n debyg yw gwneud i ddringwyr ystyried pob anturiaeth a meddwl o ddifri cyn cychwyn o’u cartrefi. Nid ar chwarae bach mae dringo unrhyw gopa.

Copa neu glopa sydd yn dod i’r meddwl wrth feddwl am chwithdoda­u Boris Johnson. Sawl copa sydd wrth i’w concro? Cegin newydd, soffas, gwelyau. Go brin i neb feddwl y bydde llu o wleidyddio­n yn gorfod ateb cwestiynau “domestig” ar ei ran! Proses? Ymchwiliad? Ond pwy dalodd? Cwestiwn syml ac ateb syml oni bai ei fod yn gwestiwn rhy chwithig i blaid asgell dde! Mae clywed rhywun fel Michael Gove, un a fu’n rhy dawel o lawer yn ddiweddar, yn dweud ei fod anghredadw­y y byddai’r Prif Weinidog yn dweud y byddai’n well ganddo weld y cyrff wedi eu pentyrru cyn cael clo arall ddim cweit yn ateb y cwestiwn sylfaenol. Ond dyddiau chwithig yw’r rhain ac etholiad ar y gorwel.

Rwy’n teimlo’n chwithig wrth weld nifer y gwleidyddi­on sydd yn sefyll yn etholiad y Senedd ond sydd yn byw yn Lloegr. I aralleirio RW Parry – chwyth o fath arall nawr – Chwyth ef/hi i’r Senedd neu chwyth ef i Seibiant. Neu ebargofian­t.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom