WELSH COLUMN
MAE lobïo yn y newyddion – un o’r geiriau rhyfedd hynny sydd wedi dod i olygu rhywbeth eitha’ gwahanol i’r ystyr gwreiddiol.
Wnaeth y gair ddim datblygu oherwydd fod pob gwleidydd yn lob na chwaith am ei fod yn gyfle i bobl gyffredin lobio cwestiynau atyn nhw.
Fel sawl gair arall, mae’n dod o siâp Senedd Llundain ei hun.
Y tu allan i siambrau’r Senedd, lle mae’r aelodau yn cwrdd, mae yna stafelloedd eang agored – y lobis. Mae un wedyn yn y fan lle mae holl brif goridorau’r adeilad yn cwrdd – y Lobi Ganol.
Yn eironig iawn, o gofio lle y mae hi, mae’r lobi honno wedi ei haddurno efo lluniau o bedwar nawddsant y gwledydd... ac ambell i frenin a brenhines hefyd.
Ond y pwynt ydi mai dyma’r lle, yn swyddogol, y mae’r cyhoedd yn gallu cwrdd â’u cynrychiolwyr – yn y gorffennol pell doedd yna fawr o rwystr i hynny; erbyn hyn mae trefniadau diogelwch yn llawer mwy caeth.
Beth bynnag, dyna pam mai “lobïo” ydi’r term swyddogol am roi pwysau ar wleidydd o blaid rhyw achos neu’i gilydd.
Gwaetha’r modd, erbyn hyn, mae’r un mor debygol o ymwneud â phobol yn pluo’u nythod ac yn gofyn ffafrau.
Ar ei orau, rhyw fath o ymgyrchu ydi lobïo; ar ei waetha’, mae’n enw neis am lygredd. Y gwahaniaeth ydi bod yn agored, neu beidio. Yn agored mae’n iawn; yn gudd, mae’n hynod o doji.
Mae hyd yn oed yn fwy cudd, bellach, wrth gwrs oherwydd y cyfryngau newydd – o’r ffôn i e-bost a WhatsApp – ac efo mwy a mwy o bobl yn gwthio’u trwynau i’r cafn. Mae’n fwy pwerus hyd yn oed na phleidlais.
Dim ond yn ystod y blynyddoedd diwetha’ y mae yna ddiwydiant lobïo wedi datblygu, lle mae unigolion a chwmnïau bellach yn cael eu talu’n hael am bledio achos rhyw fudiad neu gwmni.
Diwydiant gwerth miliynau ar filiynau o bunnoedd.
Dyna sut y mae cyn-wleidyddion fel David Cameron yn cael swyddi bras ar ôl ymddeol a sut y mae yngynghorwyr, gweithwyr gwleidyddol a newyddiadurwyr yn aml yn cael ail yrfa lewyrchus yn defnyddio’u cysylltiadau.
Os ydi hyn i gyd yn digwydd o ran rhyw achos ac yn broses sy’n agored i bawb, does dim problem anferth. Ond pan fydd pobl yn defnyddio’u dylanwad personol o dan y bwrdd, mae hynny’n fater gwahanol.
Hyd yn oed pan mae o’n gyfreithlon, mae lobïo’n codi cwestiynau anodd. Ai’r ddadl neu’r person sy’n cael yr effaith? A fedr newyddiadurwr fod yn ddiduedd os ydi hi neu fo eisio dylanwadu ar y sawl y mae’n ei holi?
Doedd yna erioed oes aur o onestrwydd ym myd gwleidyddiaeth. Dim ond rhai dethol oedd yn mentro i’r lobi. Ond, bellach, mae’n broblem fawr.
walesonline/cymraeg