Western Mail

WELSH COLUMN

MENNA ELFYN

- Walesonlin­e/cymraeg

FYDDA i ddim yn y Gelli Gandryll eleni. Fydd neb arall ychwaith. Ond gall y byd yn grwn wylio’r digwyddiad­au. Chwithig hefyd achos un o’r cyffroadau oedd cael bod mewn tref fechan, strydoedd culion a maes bras ar gyrion y dref. Maes digonol ar gyfer miloedd o bobl. A llyfrau dan ei sang. Syniadau i hogi’r ymennydd. “Sasiwn seciwlar”, neu “Gymanfa Bwnc” o fyd. Mewn oes arall ontife.

Atgofion trysoredig. Cael fy ngwahodd i’r yn yr ail flwyddyn o’i bodolaeth. Darllen yn Gymraeg heb gyfieithia­dau bryd hynny ond Peter Florence a’i dad annwyl Flo ac eraill yn gwrando’n astud. Lle i lên gael ei rhannu o dan len! Wedi hynny mynychu’n flynyddol. Y drydedd flwyddyn i mi ddarllen, cofiaf gael fy nghyflwyno gan y cadeirydd, bardd annwyl o Sais a ddywedodd i mi ddod dros y ffin o Gymru i’r Gelli. A dyma’r gynulleidf­a yn chwerthin yn uchel. Ond, o dipyn i beth, daeth y Gelli Gandryll yn enw cyfarwydd. Daeth yn bererindod i gwrdd ag awduron rhyngwlado­l, ces gyfweld â Toni Morrison, ysgwyd llaw â Maya Angelou ac ati. Ond yr uchafbwynt oedd cwrdd ag Emyr Humphreys, RS Thomas a Dannie Abse. Beirdd o fri. Ac roedd ethos Cymreig yn perthyn i’r Gelli o’r cychwyn cyntaf. Roddwyd gwobrau barddoniae­th i blant ysgol Powys. Noddwyd darlith flynyddol gan y Bwrdd Datblygu Gwledig nes dileu’r Bwrdd.

Blinais ar wenwyn sawl un am ddiffyg y Gymraeg yno. Gŵyl Ryngwladol yw sy’n arddangos ein byd diwylliann­ol amrywiol. Ceisiwyd sefydlu diwrnod Cymreig yn dilyn y cwynion ond gyda’r Eisteddfod Genedlaeth­ol a’r Urdd ar drothwy’r tila oedd y gefnogaeth.

Ond dyma finne eleni yn cwestiynu ei nod. Ysgrifenno­dd Richard Davies, cyhoeddwr Parthian ac awdur, sylwadau tebyg. Ble aeth y weledigaet­h? Ydi Llywodraet­h Cymru a noddwyr eraill Cymreig yn hapus fod nawdd ariannol “llenyddol” yn hyrwyddo’n bennaf sesiynau rhai fel Tony Blair ac Alastair Campbell? Ble aeth bwrlwm y lleisiau amrywiol, amlieithog? Darlleniad­au? Ydi’r Gelli yn y Gwyll?

Gwych yw gweld yr awduron a’r enwogion rhyngwlado­l yn cael eu lle a byddaf wrth fy modd yn gwrando ar rai ohonynt. Ond fel Llywydd PEN Cymru, corff sydd yn hyrwyddo llenyddiae­th gan amddiffyn y rhai sy’n cael eu lleisiau wedi eu mygu, rhai codi llef dros awduron Cymru. Mae cenhedlaet­h newydd o awduron yn Gymraeg a Saesneg sydd yn haeddu eu clywed yn yr ac yn haeddu’r cyfle i berfformio fel y ces innau ddegawdau yn ôl. A rhag i rywun arall ar lwyfan sôn am awdur Cymraeg yn dod dros y ffin o Gymru i’r Gelli , mae eisie cadw a hyrwyddo ein dwy lenyddiaet­h.

A chyn i ryw dwpsyn o weinidog yn San Steffan fynnu rhoi baner Jac yr Undeb uwchben yr !

Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom