Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

DWN i ddim be’n union oedd yn ei lygaid o. Ychydig o dristwch, falle, ychydig o ddioddefai­nt a, gobeithio, ymddirieda­eth.

Yna, wedi’r chwistrell­iad, mi droeson nhw’n sydyn o fod yn ffenestri byw i fod yn ddrychau caled, yn adlewyrchu glas llachar yr awyr.

Ac felly y ffarwelion ni efo’r ci addfwyna’ a thynera’ y gallech chi ei gael. Ei gorff yn ymollwng ar y cwrlid ym mŵt y car.

Roedd Ardi’n glamp o filgi o Iwerddon, yn gyhyrau tonnog ac yn esgyrn cry’. Ac yn ei ddyddiau rasio – dan yr enw Ardrahan Rotunda - roedd yn rhedeg rhyw unwaith a hanner yn gynt nag Usain Bolt.

Mae gynnon ni lun ohono fo yn ennill ras a’i lygaid yn fflachio’n ddu, wedi’u tanio gan reddf gyntefig. Roedd hi’n anodd nabod y rheiny ym meddalwch ei drem ymbilgar gartre’ yn tŷ ni.

Mi gymrodd fisoedd yn ein cwmni cyn iddo redeg eto ond mae milgi yn ei anterth yn olygfa heb ei hail. Mae’n trotian fel cob Cymreig, ei draed ar bob ochr yn symud yn berffaith efo’i gilydd ac yn glanio yn yr un lle. Wrth garlamu, nid rhedeg y mae milgwn. Mae lluniau llonydd yn eu dangos nhw droedfeddi uwch y ddaear, yn llamu a llowcio pellter, lathenni i bob cam. Ond, fel rheol, hamddenol iawn oedd Ardi. Doedd dim yn ei gynhyrfu. Roedd o’n wers i’r ddynoliaet­h gyfan, yn byw er mwyn yr hanfodion – bwyd, cwsg, ambell dro ... a soffa. Tybed a oedd hynny’n deillio o hanes ei linach, cŵn uchelwrol, gwerthfawr yn llysoedd y Tywysogion, yn cael lle urddasol i orwedd ger y tân? Pan fyddai ci arall yn bygwth, er gwaetha’i faint, rhewi y byddai Ardi. Rhewi, neu droi ar ei sawdl a cherdded yn gyflym i’r cyfeiriad arall. Ac os oedd rhywun yn mentro ar ei soffa, chwyrnad bach ysgafn fyddai’r bygythiad eitha’. Cathod fyddai’r unig rai i anghytuno efo’r disgrifiad o natur ffein yr hen gi. Pan oedd fflach o ffwr yn dal cornel ei lygaid, ei reddf oedd yn arwain eto. Bryd hynny, mi fyddai’n torsythu, y clustiau’n codi, y cerddediad yn fwy urddasol a’r llygaid yn fflam unwaith eto. Flynyddoed­d wedyn mi fyddai’n cofio’r union fan lle gwelodd o gath un tro. Does gynnon ni ddim syniad am gyfoeth yr wybodaeth y mae trwyn yn gallu’i gynnig ond mi allai Ardi mae’n siŵr ddweud pob math o straeon wrthoch chi ar ôl un tro yn y coed. A rŵan mae’r whiped bach oedd yn gwmni iddo fo yn ffroeni’n galed lle’r oedd o wedi bod. Y bore ola – er nad o’n i’n gwybod – mi dynnais lun. Ei ben ar y carped a’i lygaid yn syllu’n dawel. O leia’ doedd yno ddim ofn.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom