Western Mail

Peidiwch â thanseilio ymdrechion gyda cytundeb

- Lloyd Jones.

BU llawer o anghydfod o fewn y Llywodraet­h yn San Steffan wrth drafod cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia.

Gwelwyd Llywodraet­h Cymru hefyd yn gwrthwyneb­u’r cymhellion ar y sail y gallai greu cystadleua­eth annheg i ffermwyr.

Mae ffermwyr a’r Undebau Amaethyddo­l yn pryderu am y cytundeb sydd bellach wedi ei gadarnhau rhwng y Prif Weinidog Boris Johnson a Phrif Weinidog Awstralia, Scott Morrison.

Golyga hyn ganiatau mynediad cynhyrchio­n o Awstralia i farchnad y Deyrnas Unedig heb unrhyw fath o dreth na chostau.

Ofnir y gall hyn gael effaith andwyol ar ffermydd cefn gwlad Cymru, yn enwedig y fferm deuluol, gan na fydd eu cynnyrch yn cyrraedd gofynion y wlad yma.

Anodd iawn i ffermydd o’r maint sydd gennym ni yng Nghymru gystadlu a ffermydd mewn hinsawdd sy’n llawer gwahanol ac sydd gymaint yn fwy o faint.

Rhaid ystyried hefyd fod costau byw yn Awstralia llawer rhatach, cymaint a 20 mil y flwyddyn.

Mae Boris Johnson yn ymfalchio ei fod wedi llwyddo i gyrraedd cytundeb gan fod hon yn garreg filltir go bwysig.

Dyma’r cytundeb cyntaf ar ol Brexit.

Gall ddod a chyfleon a busnesau newydd a fydd o fudd i nifer o gwmniau yng Nghymru sydd eisioes yn allforio i’r wlad.

Barn rhai yw y gall cytundeb masnach y Deyrnas Unedig gydag Awstralia roi Cymru dan anfantais trwy ganiatau mynediad di-dariff i’r farchnad ar gyfer cynhyrchio­n amaethyddo­l. Gallai hyn achosi newidiadau yn y sectorau amaethyddo­l a chynnych bwyd yng Nghymru. Medr ffermwyr Awstralia gynhyrchu bwyd llawer yn rhatach.

Mae’n allweddol i’r sector amaeth fod yn ffyniannus a chynaliadw­y er mwyn cymunedau gwledig Cymru.

Bellach, mae ffermwyr a chynhyrchw­yr bwyd yn rhan hanfodol o’n cymuned yn economaidd ac yn amgylchedd­ol.

Ymhyfrydwn yn ein safonau uchel o ran diogelwch bwyd a iechyd a lles anifeiliai­d yng Nghymru.

Gallwn olrhain tarddiad unrhyw gynnyrch fferm ac mae hyn yn destun cymeradwya­eth gan y cyhoedd yn fyd eang.

Gwyddom fod amaethyddi­aeth yn cydnabod pwysigrwyd­d materion amgylchedd­ol a newid hinsawdd.

Bydd cludo bwyd o wledydd tramor dros y mor neu’r awyr yn tanseilio pob ymdrech.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom