WELSH COLUMN
MI DDIGWYDDON ni landio’n aros mewn gwesty yng ngogledd Lloegr, rhan o ddwy stad un o deuloedd a pherchnogion tir mwya’ cyfoethog y wlad.
Popeth yn neis a dymunol iawn... dodrefn moethus, sebonau bach oglau da ym mhob bathrwm, lliain i sychu’r ci a staff cwrtais yn barod i helpu. Neis a dymunol iawn.
Roedd yr un gwesty hwnnw’n rhan o fenter anferth a defnydd yn cael ei wneud o bron bob modfedd o’r miloedd o erwau o dir ac o bron bob adeilad ymhlith y cannoedd oedd yn frech hyd yr ardal.
Tai rhent, tai gwyliau, siopau, stafelloedd te, canolfannau busnes, ffermydd... roedd y cyfan yno... a’r cyfan yn pwmpio rhagor o arian i bocedi teulu oedd wedi mwynhau cyfoeth anferth ers cannoedd o flynyddoedd. Y math na fydd rhaid iddyn nhw dalu mwy na chi a fi mewn trethi ac, o bosib, llawer llai.
Wrth i yswiriant gwladol – y dreth ar swyddi – godi, roedd yna alw am drethu eiddo a chyfoeth hefyd ond mae’r rheiny’n cael eu gwarchod. Yng ngwledydd Prydain, mae eiddo’n sanctaidd a pherchnogaeth tir yn fwy sanctaidd na dim.
Weithiau, er hynny, mi ddylen ni ofyn o ble daeth y cyfoeth a’r eiddo. Ryden ni’n eu trin nhw fel pe baen nhw’n hawliau, heb ystyried pam fod cymaint gan rai a chyn lleied gan bobol eraill.
Heb gofio, rai cannoedd o flynyddoedd yn ôl, fod y rhan fwya’ o’r tir yn eiddo cyffredin i bawb.
Os edrychwch chi ar lawer o’r teuluoedd aristocrataidd, mae yna batrwm clir: dechrau efo arfau a lladd, adeg y Normaniaid a chynt; wedyn, rhagor o arfau, crafu a llwgrwobrwyo.
Y cam nesa’ oedd defnyddio’u grym i gau tiroedd y bobol gyffredin; wedyn ecsploetio’r tir a’r mwynau oddi tano fo, er mwyn creu cyfoeth mwy fyth. Gan ddadlau trwy’r amser, wrth gwrs, fod hyn i gyd yn hawl.
Ar wahanol adegau, mi ymunodd pobol newydd yn y gêm. Sawl marsiandwr cyfoethog yn manteisio, er enghraifft, ar chwalfa’r mynachlogydd i greu stadau a throi’n aristocratiaid; diwydianwyr yn yr hen hen ganrif yn cymryd mantais o lafur y miloedd.
Yn ein dyddiau ni, mae’r hapfasnachwyr wrthi – y “speculators” sy’n gwneud dim ond defnyddio’r system a’i chwarae, y cwmnïau mawr sy’n prefateiddio mannau cyhoeddus, neu’r asiantiaid o fathau gwahanol sy’n cynhyrchu dim byd... ond arian iddyn nhw eu hunain.
Ar hyd y canrifoedd, ryden ninnau wedi derbyn a chodi cap, yn llythrennol neu’n symbolaidd. Y tenantiaid ffyddlon yn cowtowio i’w landlordiaid, y gweithwyr ffatri yn canmol haelioni’r bos. Hyd yn oed y ffans pêl-droed yn talu degau o bunnoedd bob dydd Sadwrn i wylio miliwnyddion.
Ac ymwelwyr bach diniwed yn talu trwy’r trwyn am aros mewn lle neis a dymunol iawn.