Western Mail

WELSH COLUMN

MENNA ELFYN

- Walesonlin­e/cymraeg

DYNA air da yw “nerth”, gallwn osod pob math o eiriau tuag ato – a’r diweddaraf i mi yw’r gair cyfnerthyd­d am y pigiad at y ddwy arall.

Rhaid canmol y rhai sy’n gwneud y gwaith hwn, nid ar chwarae bach y mae mynd trwy’r holl gynghorion a chwestiyna­u cyn gweinyddu’r peth. Chwarae teg iddynt am eu llafur. Methu â deall ydw i – y rhai hynny sy’n dal i wrthod â derbyn y pigiad er eu bod yn gweithio ym maes gofal a iechyd.

Pigiadau o fath go wahanol a ddaeth i ran Prif Weinidog “Prydain” yr wythnos diwethaf pan aeth ati i geisio clirio drwgweithr­edu un aelod Sseneddol gyda’r frawdoliae­th hŷn gan fwyaf yn ei amddiffyn i’r carn gan wasgu yn annheg ar aelodau seneddol eraill i dderbyn gwelliant a fyddai yn rhoi rhwydd hynt i Owen Paterson i osgoi is-etholiad.

Yn y pendraw fe wnaeth y llywodraet­h gam-ddehongli dicter eu haelodau a bu tro pedol. Ac wrth gwrs, erbyn dydd Llun roedd Boris mewn ysbyty yn sâl o eisiau cael diwrnod bant o’r gwaith ac yng ngogledd Lloegr yn cerdded y coridorau heb fwgwd.

Ai chwarae’r ffon ddwybig oedd ei fwriad neu heb ofal am ddim ond ef ei hun – falle iddo anghofio bod Covid yn dal i fod?

Dyma’r union adeg pan oedd COP26 fod ar flaen y gad, ar flaenau tafodau arweinwyr byd, ac ar flaen meddyliau pob un ohonom sydd yn poeni am ddyfodol y byd a’r cread yr ydym wedi ei difwyno i’r cenedlaeth­au a ddaw.

Nid mwy o “Winllan a Roddwyd” i blant ein plant ond grawnwin surion a losgwyd yn ulw mewn tanau fydd hi.

Bum yn darllen yn ddiweddar lyfr Elizabeth Kolbert “Under a White Sky” sy’n adrodd hanes natur y byd yn y dyfodol.

Na, nid llyfr och a gwae yw e wedi’r cyfan ond adrodd y mae yr holl ymyriadau a wna “arwyr” a “herlodesi” wrth geisio atal difodiant: peirianwyr sydd yn troi carbon yn gerrig yn

Ynys yr Iâ (gyda llaw sdim gair yn eu hiaith nhw am “stuck”).

Yna, ymchwilwyr sy’n ceisio troi cwrel arbennig a all wrthsefyll y byd i boethi ymhellach a ffisegwyr yn ystyried saethu diemwntau i’r stratosffê­r er mwyn oeri’r ddaear. Mae llawer mwy hefyd yn y llyfr dwfn ond deallus hwn.

Dwfn. Deallus. Alla i ddim a dweud bod hynny’n eiriau i ddisgrifio’r rhai mewn grym ar hyn o bryd.

Fesul un, mae’r Prif Weinidog wedi rhoi bwmbwr dros ei lygad i osgoi yr hyn sy’n digwydd a’r llwgr wobrwyo yn mynd â rhai yn ddyfnach yn y caglau.

Dechreuais gyda “nerth” a chydnerthu. Ond mae grym yn un peth (dros dro) peth arall hollol yw nerth.

Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom