Gall amaeth arwain y ffordd wrth geisio gwella’r hinsawdd
MAE’N amlwg fod Uwch Gynhadledd COP26 wedi bod yn gyfrwng i bawb fod yn ymwybodol fod tymheredd y Ddaear yn codi oherwyd cynnydd mewn nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer. Os na gydweithredir yn fuan, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol o frawychus.
Calonogol iawn deall fod cymaint o ddiddordeb gan y to iau a’u huchelgais a’u penderfyniad i geisio gwella’r sefyllfa.
Llwyddodd y gynhadledd COP26 i gael addewidion gan y rhan fwyaf o’r 200 o wledydd i dorri lawr ar allyriadau sy’n digwydd yn gyson gan geisio peidio mynd tu hwnt i 1.5 gradd. Er yn anffodus nid yw rhai o’r prif wledydd am gydymffurfio.
Mae’r sector amaeth o dan bwysau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr oherwydd eu bod yn uchel ac mae ffermwyr yn ymwybodol o hyn.
Prif benderfyniad y llywodraeth yw i ffermwyr blannu rhagor o goed, gan mai coed yw un o’r cyfryngau gorau i amsugno allyriadau carbon.
Mae ffermwyr yn barod yn derbyn yr heriau trwy blannu coed ar dir ymylol, ond ddim ar dir sy’n well i gynhyrchu bwyd.
Maent yn gwbl wrthwynebus i werthu ffermydd ar gyfer plannu coed gan y gellir rhagweld, wrth blannu coed ar dir ffrwythlon, na fydd digon o dir i godi bwyd gogyfer â’r boblogaeth gynyddol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae anifeiliaid sy’n cnoi cil yn uchel yn eu hallyriadau oherwydd eu treuliadau bwyd sy’n gadael allan drwy’r anadl neu wrth becial.
Mae’r llygredd sy’n cael ei achosi gan y diwydiant amaeth yn isel iawn mewn cynhariaeth glo, olew a thrafnidiaeth.
Newyddion da yw fod Seland Newydd, ar y cyd ag Awstralia, yn arwain y ffordd i ddatblygu brechlyn i leihau allyriadau mewn anifeiliad.
Gall y darganfyddiad yma fod o werth amhrisiadwy i’r hinsawdd, yn enwedig yn y tymor hir, ac i afiechydon da byw sydd eto heb ddod i’r amlwg.
Y wybodaeth ddiweddaraf yw fod glaswellt ifanc, pan yn cael ei bori, yn gwella’r hinsawdd a’r maeth mae’n ei roi i’r anifail.
Gallai hyn leihau’r ddibyniaeth ar fewnforio bwydydd.
Dangosodd gwaith ymchwil Prifysgol Bangor y gallai allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn sectorau amaethyddol yng Nghymru leihau 30% trwy fabwysiadu gwell arferion. Cewch fwy o wybodaeth am hyn trwy gysylltu â Cyswllt Ffermio.
Gellir hyderu y bydd y diwydiant amaeth yn arwain y ffordd wrth geisio gwella’r hinsawdd a’r amgylchedd.