Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH walesonlin­e/cymraeg

AC FELLY, maen nhw wedi penderfynu ar enw i’r bar newydd yn yr Eisteddfod Genedlaeth­ol. Ar ôl R Williams Parry. Druan o Bob.

Doedd Robert Williams Parry ddim yn enwog am yfed ond roedd yr R yna ar ddechrau ei enw yn ddigon. Bar Williams Parry, bron cymaint o lond ceg ag a gewch chi o’i dapiau.

RWP ei hun sy’n cyfeirio mewn cerdd at eisteddfod­au slawer dydd pan oedd y beirdd “yn yfed fel pysg” ac, yn sicr, mi fyddai hynny’n esboniad am lawer o’r rwtsh a gafodd ei sgrifennu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y Steddfod Ddoe a Heddiw ydi enw’r gerdd honno ac mae’n sôn am Owain Gwyrfai yn “byw” mewn tafarn o’r enw y “Queen Bach” a Ceiriog, neb llai, yn mentro trwy ddrws tafarn “Tywysog Cymru”. A RWP yn cydymdeiml­o.

Mae’n debyg fod Williams Parry ei hun yn arfer cwrdd â chyfeillio­n – rhai fel yr actor Gwynfor – mewn tafarnau o amgylch Caernarfon, ond digwyddiad­au diwylliann­ol oedd y rheiny, yn fwy nag esgusion i slotian.

Yn ôl un stori, roedd Caradog Prichard wedi cael gwahoddiad i ymuno – yn sgil ei gampau’n ennill y Goron dair gwaith, siŵr o fod. Ond dim ond un gwahoddiad gafodd o ar ôl mynd ychydig (neu lot) dros ben llestri.

A dyna’r pwynt; mae yna sawl bardd, fel Caradog, a fyddai’n haeddu o ddifri cael ei enw ar le yfed. Baradog Prichard falle.

Neu be am Dewi Emrys oedd yn credu y dylen ni yfed cwrw o landeri tai... er mwyn i esblygiad sicrhau bod ein gyddfau’n ymestyn er mwyn i ni gael mwy o flas y ddiod? Mi groesodd yntau’r llinell bell nad yw’n bod sawl gwaith.

Yn nodweddiad­ol, efo’r gwan yr oedd cydymdeiml­ad R Williams Parry. Yn y gerdd honno i’r brifwyl, roedd o’n gwaredu at golli’r hen hwyl ac at duedd ei oes i’w throi hi’n rhyw fath o Seiat neu Ysgol Sul.

Am ddegawdau, wrth gwrs, doedd yna ddim bar o fath yn y byd ar gyfyl yr Eisteddfod ac roedden ni newyddiadu­rwyr yn treulio’r wythnos fwy neu lai yn chwilio am bwysigion y genedl yn torri’r rheol “dim lysh”.

Doedd dim rhaid chwilio ymhell, a dweud y gwir. Roedd gan gynhyrchwy­r y BBC stash neu ddau o boteli ar gyfer eu cyfranwyr... ond doedden ni ddim eisio sôn am y rheiny, rhag ofn i un ohonon ninnau gael gwahoddiad i gymryd rhan.

Mae’n siŵr y byddai Williams Parry wedi bod yn reit falch i weld bod lle i gael llymaid unwaith eto yn rhan o’r ŵyl ond mae enwi’r lle hwnnw ar ei ôl o yn mynd fymryn yn rhy bell.

Mi allen nhw o leia’ fod wedi’i defnyddio’i lysenw. Bar yr Haf?

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom