Western Mail

WELSH COLUMN

DYLAN IORWERTH

- WYAU a gŵyl y bywyd walesonlin­e/cymraeg

Gweld llun yn y papur wnes i o ddynion ifanc yn Hwngari yn taflu dŵr tros eneth tua’r un oed. Un o ddathliada­u’r Pasg. Un o ddwsinau o arferion traddodiad­ol sydd ynghlwm wrth yr ŵyl.

O’r holl achlysuron mawr Cristnogol, go brin fod yna’r un arall lle mae’r cwlwm rhwng y stori yn y Beibl a hen arferion paganaidd yn mynd efo’i gilydd cystal.

Ac o gofio mai wyau ydi un o’r prif symbolau, mae’n hollol deg gofyn pa un sy’n dod gynta’, yr wy neu’r ŵyl grefyddol?

Yn aml iawn, mae defodau wedi datblygu er mwyn cydnabod rhyw angen penodol, o fyd natur efallai neu o ran ein bywydau ni. Defodau o ddyddiau’r hen grefyddau paganaidd i drio annog y ddaear i gynhyrchu bwyd, efallai, neu rai eraill i reoli ein harferion.

Mae ychydig o’r cyfan i’w weld yn nefodau’r Pasg, siŵr o fod, gan gynnwys y defnydd o wyau.

Wyau, wedi’r cyfan, sydd fel cromfachau o amgylch cyfnod y Grawys – defnyddio’r wyau sy’n weddill i wneud crempog ar ddydd Mawrth Ynyd, ac ailddechra­u’u bwyta nhw adeg y Pasg.

Mae’n siŵr mai angenrhaid oedd trefnu cyfnod o fwyta llai tua diwedd y gaeaf. Mi fyddai bwyd yn brinnach, mi fyddai ieir hefyd yn dodwy llai oherwydd y prinder golau a chreu esboniad crefyddol yn ffordd o’n hannog i dynhau’r belt a bwyta’n fwy gofalus.

Ond, wrth gwrs, mae wyau hefyd yn symbol o fywyd newydd – mae cragen yn torri a phig bychan yn ymwthio trwy’r twll fel crystyn caled y ddaear yn cracio a phlanhigio­n yn dechrau ymddangos. Ac addolwyr wedi penderfynu gweld yr wyn debyg hefyd i’r ogof lle’r oedd corff Iesu Grist, yn ôl y stori, wedi’i roi i orwedd a’r plisgyn gwag wedyn yn arwydd o ailddeffro bywyd.

Ai cyd-ddigwyddia­d neu’r calendr sy’n gyfrifol am fod ŵyn bach hefyd yn rhan fawr o symboliaet­h y cyfnod? Ydi cig oen yn brys Pasg am fod digonedd o ŵyn ar gael neu am ein bod ni yn dilyn hen arfer yr Iddewon sy’n mynd yn ôl i’w caethiwed yn yr Aifft?

Ac ryden ninnau’n addasu’r arferion. Mi aeth croeso deiliog a blodeuog Jeriwsalem ar Sul y Blodau yn ddefod o osod blodau ar feddau teulu ac, yng nghanol Ewrop, o bosib yn rhan o ddefod y bwcedeidia­u o ddŵr.

Yn ogystal â glwychu’r genethod, mae’n debyg y bydd bechgyn hefyd yn eu chwipio (yn ysgafn gobeithio) efo canghennau gwyddau bach yr helygen ... eu fersiwn nhw, meddai rhai, o ddail palmwydd stori’r Beibl.

Defod ffrwythlon­deb ydi un y dŵr hefyd, fwy na thebyg ... y dŵr sydd ei angen er mwyn i blanhigion dyfu. Gan bawb, ymhobman, mae’n amser gŵyl y bywyd.

Neu mi ddylai fod.

■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom