WELSH COLUMN
MENNA ELFYN
WRTH lunio’r golofn daw’r newyddion i Elon Musk brynu Twitter. Beth ddaw o gael gŵr mwyaf cyfoethog y byd yn rheoli’r fath lwyfan?
Dyna’r un teclyn y cedwais rhagddi, yn fwriadol felly. A welwn rhai unwaith eto yn traethu cynllwynion ac anwireddau ar bopeth – a dim byd? A welwn ragor o fwlis geiriol yn llefaru fel pe’n wirionedd? Ai Twitter fydd ymerodraeth afreolus ein bydysawd bach ni? Nid gwleidyddion yn gymaint â biliwnyddion yn arllwys newyddion ffug y dydd arnom.
Ond wedyn, mae yna bapurau newyddion yn y gwledydd hyn sy’n gwneud jobyn go dda o arllwys gwenwyn neu storïau ffuantus. Fel y stori am honno sy’n un o brif wleidyddion Senedd San Steffan sef Angela Rayner. Wna i ddim ailadrodd y sylw a wnaed gan un neu ragor o aelodau Torïaidd San Steffan amdani. Stori wael yw ynghylch y Prif Weinidog a’i sylw wedi ei dynnu – llygad dynnu gan ddynes! Mae’r peth yn chwerthinllyd o gofio ei hanes! Eto’n fileinig.
A dyna’r niwed wedi ei wneud. Dienw wrth gwrs. Difenwi rhywun a bod yn ddienw. Rhwydd! Cuddio tu ôl i olygydd papur newydd a’r golygydd hwnnw yn gwrthod cyfarfod â Llefarydd y Tŷ. Dyna ystrywiau rhai gwleidyddion Torïaidd yn ddiweddar er mwyn inni anghofio strach Rwanda, y wasgfa ar deuluoedd, pasports glas, ffoaduriaid Wcráin – heb yr un arch Noa o achubiaeth o’r Dilyw.
Nid Angela Rayner yw’r unig ferch o wleidydd i ddioddef sen yn San Steffan. Gofiwch chi’r hw-ha am sgidiau Theresa May ers talwm? Neu flows Jacqui Smith. Yn yr un papur holwyd a oedd hi’n gwisgo “bronglwm o groen llewpart”? Neu’r ymgais gan Boris i alw Emily Thornberry yn “Baroness whatever it is...” gan wybod yn iawn nad oedd yn hawlio’r teitl er y gallai yn sgîl teitl ei gŵr sy’n farnwr nodedig. Ffordd dda o’i darostwng. Ei hatgoffa o’i lle – fel gwraig! Neu beth am Sophie Howe a ddywedodd iddi ddioddef rhywiaeth saith mlynedd yn ôl gan ryfeddu ei fod yn dal i ddigwydd.
Un o siomedigaethau fy mywyd oedd credu’n y ’70au y deuai’r hawl i ferched fyw fel dinasyddion cyfartal. A’r hawl i gael bronnau a brêns. Ond beth am yrfaoedd eraill?
Gofynnodd un yn ddiweddar pam y disgwylir i ferched opera wisgo ffrogiau llaes hyd y llawr ac yn aml gwddf isel (ond dim dangos yr un bigwrn cofiwch!) ynghyd â sodlau torri gwddf sydd yn newid balans y corff tra bo’r cantor o ddyn yn cael camu’n dalog a chwim i’r llwyfan yn ei grys gwyn, trowsus du a siaced ag iddo gynffon. Bravo. Neu Braf arno Fo!
Ailgyhoeddais “Wnaiff y gwragedd aros ar ôl?” eto yn fy nghyfrol newydd “Tosturi”. Cerdd a luniwyd yn 1983! Ond i ble aeth tosturi tybed?
■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
walesonline/cymraeg