WELSH COLUMN
MENNA ELFYN
GAIR rhyfedd yw’r gair preifat. Rydym oll yn gyfarwydd â’r arwydd “Private – keep out” mewn rhai mannau neu adeiladau.
Ac yr ydym oll ar ryw adegau yn crefu am y fath stad. Daethom hefyd i arfer â’r cyflwr wrth inni dderbyn cyfyngiadau’r clo dro’n ôl.
Yn rhyfedd iawn, yn Gymraeg os edrychwch ar y gair “private” mewn geiriadur fe welwch y gair “llonyddwch” yn ei ymyl a theimlo anadl hir y gair hwnnw. Oherwydd mae preifatrwydd yn gallu golygu hynny i rai.
Dyna ichi’r ffermwr – bugail yn ôl yr hyn a ddywedwyd amdano sydd yn byw ei fywyd yn syml o dawel a phreifat. Yn gofalu am ei braidd liw nos a dydd, ac yn bwyta yr un pryd o fwyd yn wastadol. Nid wyf am ei enwi ond cyn hir bydd y byd benbaladr yn gwybod amdano oherwydd i un wneuthurwr ffilm ei gipio ar gamra a’r ffilm yn cael ei dewis i’w dangos gyda hyn yn America.
Mae’n chwedl hyfryd am yn meindio ei fusnes neu yn hytrach yn gofalu yn drylwyr am ei ddefaid ac yn caru ei gynefin. “Lejend” bydde’r to ifanc yn ei alw. Dyn ei fro a’i gariad at grefft gyntaf dynolryw. Eto, hoffwn feddwl nad yw’n “eithriad” ond ei fod yn enghraifft o’r math o ddinesydd triw sy’n “fodlon” ei fyd.
Ond mae’r gair preifat yn bryfoclyd. Mewn hen giriaduron Cymraeg, ac mae toreth o’r rheiny ar agor yn aml iawn gennyf – dyw’r gair “private” yn Gymraeg ddim yn bodoli ond yn hytrach gosodir y geiriau “dirgelwch”, “cuddiedig” neu “cyfrinachol” yn ei erbyn.
Mae hynny ynddo’i hun yn codi cwestiynau difyr onid yw am enwogion o bob math a rhyw sy’n hawlio eu preifatrwydd ond wedyn yn aml yn fodlon agor eu calonnau mewn llys barn i bledio dros y “preifatrwydd” hwnnw.
Fel sawl un arall, dysgais yn fore ynghylch preifatrwydd gwaith fy nhad fel gweinidog. Cefais fy magu ar aelwyd lle roedd aelodau’r capel yn sleifio i mewn i’r tŷ i stydi fy nhad gyda’u negeseuon neu eu gofidiau.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, y sylweddolais pam yr oedd fy nhad yn gorfod gadael y tŷ yn hwyr ar nos Sadwrn a hynny am mai gweld y “gweinidog” oedd yr unig beth a roddai ofn ar meddw a fyddai’n dychwelyd o’r dafarn gan guro ei wraig.
Ond i ddychwelyd at breifatrwydd. Gwelsom eisoes mai’r gair “cuddiedig” neu “cyfrinachol” yw ei ystyr pan ddaw’n fater o fateroliaeth ac ariangarwch. Ac yr ydym eto i weld pa ganllawiau a ddaw i rym i daclo’r holl gwmnïau preifat a elwodd o gael cytundebau gwerth miliynau o bunnoedd heb wireddu eu haddewidion.
Preifatrwydd rules, OK neu UK.
Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant