WELSH COLUMN
BU FARW Rembrandt yn ddyn tlawd ac mewn dyled, a’r ddiod wedi ei feddiannu. Ond gadawodd hefyd gyfoeth. Dyna’r rheswm dros fy ymweliad â’r amgueddfa yng Nghaerfyrddin ar brynhawn mwyn ar ddiwedd Ionawr wrth i un o’i weithiau mwyaf gael ei arddangos, sef portread o Saskia, ei wraig. Llun yw ohoni flwyddyn wedi iddynt briodi, ac mae ganddi flodau yn ei hymyl, ffon fugeiles ac mae’n feichiog.
Pan esgyn ta fi’ rag ori ad roeddyl leo dan ei sang, a da hynny. Felly troi am adre wnes heb sedd wag yn unman a dychwelyd wythnos yn ddiweddarach. Gobeithiwn y byddai’r oriel yn dawelach on drhy fed duwn es at ydwsinobobl era ill oedd yno, yn sefyll mewn syndod a rhyfeddod of la eny port read gan amsugno holl orchestwaith Rembrandt, y paentiwr modern cyntaf yn ôl barn arbenigwyr. Dywedir iddo droi at baentio er mwyn ffeindio’i ffordd mas o dywyllwch. Ef hefyd oedd y cyntaf efallai i gymryd yr unigolyn (ac unigrwydd) fel ei thema a chael ei ddieithrio oddi wrth ei gymdeithas ei hun.
Pam syllu’n hir ar bortread Saskia? Ai i geisio cydymdeimlo â’r hyn y gwyddom amdani, yn colli tri o’i phlant yn ifanc iawn gyda dim ond y mab Titus yn goroesi a wnaem?
Ond o wybod hanes Saskia ni allwn lai nag edrych arni a gweld gwraig a nododd yn ei hewyllys na fyddai Rembrandt yn cael ail briodi gyda’r canlyniad i Hendrickje, ei gymar wedi iddi farw gyd-fyw gyda’r artist a chael ei barnu yn “butain” gan yr awdurdodau crefyddol gan wrthod y Cymun iddi. Er hynny, llwyddodd Hendrickje i reoli ei fusnes gyda’i fab Titus er mai marw yn ifanc oedd ei thynged hithau.
Ond nid dim ond arddangosfa Rembrandt sydd yno. Ceir yn rhan o’r arddangosfa, waith newydd hyfryd gan Julia Griffiths Jones o wahanol bethau yn biserau, llestri, defnyddiau domestig wedi eu hasio ynghyd. Fe gafodd ei hysbrydoli wrth ymweld â thŷ Rembrandt yn Amsterdam a chofiaf innau deimlo’n glawstroffobig yno gyda’r hyn a alwem adre yn “drugareddau” o bethau bob dydd. Ceir cerdd swynol gan Mererid Hopwood hefyd ar hyd un wal a gweithiau gan Jeannette Gray a Leigh Chappell. Ewch da chi yno a chewch wefr o wneud.
Mae’n wych fel y mae artistiaid ddoe yn parhau i ysbrydoli artistiaid cyfoes heddi. Ac mewn byd sydd yn trafod ariangarwch neu ei ddiffyg, mae rhywbeth mor freintiedig o weld celf adnabyddus “am ddim” a hynny heb yr un cymhelliad ar wahân i ystyried pa mor amhrisiadwy yw rhai o bethau hyfrytaf bywyd. Saskia gyda’i blodau, a Rembrandt, yr artist a wnaeth ysgwyd meddyliau gyda’i ddawn.
A’i waddol a’i wers i’n hoes ni? Ffeindio ffordd allan o dywyllwch gyda chyfoeth tu hwnt i fudr-elwa.
Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant