WELSH COLUMN MENNA ELFYN
MAE newyddiaduraeth ar dir sigledig yn aml y dyddiau yma. Daeth celwydd golau a thywyll a’i alw’n ôl-wirionedd yn gyffredin yn ein hoes ni. Pa werth sydd i newyddiadurwyr meddech chi os yw pawb wrthi gyda’u podlediadau a’u postiadau ar y Gweplyfr neu fannau eraill. Bron nad yw pawb yn credu ei fod yn newyddiadura. Ond na. Rhoddaf enw ichi un a oedd yn arwr o newyddiadurwr – Clive Betts. Dyna oedd ffon fesur o newyddiadurwr clodwiw.
Gan ’mod i’n ysgrifennu’r golofn hon yn y Western Mail, mae’n deg cyfeirio at golli un o’r newyddiadurwyr mwyaf praff a thrylwyr a gafodd y papur dyddiol (a’r South Wales Echo) y fraint o’i gyflogi. Ymroddiad oes. Ein lwc dda ni fel cenedl oedd iddo aros yng Nghymru wedi iddo raddio yn Aberystwyth a throi ei law at fod yn newyddiadurwr o’r radd flaenaf.
Dywedaf hyn, er iddo ar adegau wylltio, ambell dro blesio rhai fel ni, aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrth gyhoeddi digwyddiadau stormus y dydd a brwydr yr iaith. Ond roedd yn llygad ei le i’n cythruddo hefyd achos nid gwaith neis-neis oedd newyddiaduraeth iddo.
A na, doedd e ddim yn perthyn i’r rheiny sydd heddiw yn ceisio dyrchafu’r asgell dde neu chwith. Na, dyn cytbwys ei feddwl oedd Clive a ddeallai mor anniben gymhleth ar y gorau oedd gwleidyddiaeth a phob cwenc yn bwnc dadlau am hyn ac arall.
Dyn “sownd”, siwr o’i bethau oedd, un heb feddwl soser, un o hoff ddywediadau fy nhad. Pwyso a mesur yn gytbwys ac yn ddeallus a wnai bob tro.
Ac am hynny, roedd yna barch aruthrol iddo, ac yn fwy na dim barchedig ofn ohono ac o’i ddylanwad dros gyfrwng papur newydd fel y Western Mail. Ac arddel a wnaeth y gred mai hwn oedd ein papur “cenedlaethol” gan wneud ei orau i weithio tuag at gynnal safonau newyddiadurol gloyw boed hynny’n siomi neu’n llonni’r sawl dan y lach neu’n cael clod. Gwir y sylw iddo “ddilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth wedi ei selio ar ddatblygiadau gwleidyddol yng Nghymru, ar faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a dathliadau diwylliannol Cymreig”.
Un yn dethol hanesion fel doethur oedd.
Hwyrach na fawrygwyd yn ddigonol Clive Betts oherwydd ei ffordd dawel o dynnu dyfyniad allan ohonoch heb ichi wybod ichi ei lefaru. Dyna oedd ei grefft. A theimlo yn waelodol ei fod rywsut yn drugarog tuag at rai pethau hyd yn oed os oedd yn wrthrychol o feirniadol.
Ni welais ef yn gwylltio erioed. Ond cofiaf ei wên ddireidus.
Mynnaf y gair olaf nawr, er hwyrfrydig mi wn. Dyma enw i’w fawrygu fel un a luniodd dros ddegawdau naratif Cymru ddoe a heddiw, fel mater o “raid”. Gwnaeth yntau “Yma o hyd” yn bosib – diolch iddo.
Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant