WELSH COLUMN
BÛM ynghlwm wrth “y weriniaeth” yr wythnos hon. Nid meddwl am Iwerddon yr ydw i er bod y Cytundeb Heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn dathlu pum mlynedd ar hugain ym mis Ebrill. Nid meddwl ychwaith am yr Unol Daleithiau a’u trafferthion diweddaraf ym myd cyfalafiaeth.
Na “gweriniaeth” llawer nes adre mewn cyfrol arbennig iawn “Republic” gan Nerys Williams, o wasg Seren. Bardd yw sy’n byw a gweithio yn Iwerddon ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod, Dulyn. A dyma gyfrol o farddoniaeth arbennig iawn a hynny am ei bod yn gwthio ffiniau’r hyn yr ystyriwn yn farddoniaeth, sef cerddi sy’n edrych fel paragraffau bychain ond sydd yn goferu o farddoniaeth ffres ac ysgubol.
Mae’r gyfrol yn ferw o argraffiadau o’i phlentyndod a’i llencyndod yn Sir Gâr a llwyddodd mewn 80 cerdd i weu clytwaith o atgofion. Rhyw fath o hunangofiant difyr, dwys a heriol yw ynghylch bod yn groten ifanc mewn ardal wledig yn y Gymru sydd ohoni. Dyma gipio teimladau a hanesion rhai sydd ar ymylon bywyd, boed yn Gymraes, neu’n ferch sy’n gweld y byd ar letraws. Mae ei barddoniaeth “dros y lle” a golygaf hynny fel canmoliaeth.
Mae’n berl o gyfrol os nad yn glasur gan un sydd yn glirweledydd ein cyfnod ni. Mae rhai darnau sy’n gwneud ichi wylo gyda hi fe “Box of Breath”, neu “Score for the Voice”, darn sy’n egluro i’r dim y cyweiriau cerddorol yn ei chanu. Dyma gasgliad sydd gyda’r gorau imi ei ddarllen ers tro byd.
A dyma feddwl am y sylw sydd wastad wedi fy mlino sef a oes gwahaniaeth rhwng barddoniaeth a rhyddiaith neu onid ydynt fel “dwylan yn erfyn” am gael eu deall? A beth yw’r gwahaniaeth yn marn rhai a fu’n arweinwyr gwleidyddol? Dywedodd Mario Cuomo unwaith “campaign in poetry, govern in prose”. Beth yn y byd oedd ei ystyr? Ai dweud cyn lleied ag sy’n bosib oedd ei ystyr fel “Stop the Boats” neu “Get Brexit done”? Iefe? Ai credu a wnaeth rhai mai dweud cyn lleied â phosib sy’n creu barddoniaeth? A bod rhyddiaith yn rhywbeth arall sy’n fwy hirwyntog? Dywedodd John F Kennedy unwaith – pe bydde mwy o wleidyddion yn gwybod mwy am eu barddoniaeth, a mwy o feirdd yn deall mwy am wleidyddiaeth, yna, bydde’r byd mewn lle gwell. Tybed a fydde hynny’n wir?
“Mae gen i freuddwyd”. Ie, dyna ddyn oedd Martin Luther King a fedrodd droi anerchiad yn gerdd. Ond beth bynnag, mae gen i freuddwyd y bydd rhywun rywbryd yn awgrymu i wledydd y byd ddod ynghyd – i drafod – na nid arfau niwcliar – na pwy sy biau Taiwan neu Wcrain ond hanes barddoniaeth eu gwledydd unigryw.
Nawr dyna fydde chwyldro a gweriniaeth byd i bawb.