Western Mail

Pwysigrwyd­d marchnad a phris teilwng i ffermwyr

- Lloyd Jones

UN O’R pynciau mwyaf amlwg yn nhrafodaet­hau ffermwyr y dyddiau yma yw ffermio amgylchedd­ol a chynaliadw­y.

Golyga hyn ddefnyddio adnoddau’r tir, y pridd, y dŵr, anifeiliai­d a phlanhigio­n i gynhyrchu nwyddau fydd yn diwallu anghenion pobl a gwella’r atmosffer. Dulliau sy’n gyfrwng i ostwng llygredd niweidiol a gostwng nwyon tŷ gwydr.

Dyna oedd amcan y Cynllun Taliadau Sylfaenol o fewn cyfundrefn yr Undeb Ewropeaidd. Cynllun fydd yn dod i ben ddiwedd 2024.

Yn sgil hynny, mae Llywodraet­h Cymru wedi bod wrthi’n cyflwyno taliadau trwy gynnig dulliau amgylchedd­ol a chynaliadw­y. Y nod yw symbylu ffermwyr i droi yn ôl at ddulliau cynhyrchio­l sy’n fwy amgylchedd­ol gyfeillgar – er na fydd yna daliadau uniongyrch­ol na chydnabydd­iaeth am wneud hyn.

Bydd y cymorth ariannol i’w wario ar y deunyddiau ffermio, gyda’r gweddill yn mynd tuag at gostau llafur. Ond yn anffodus, fydd dim arian yn cael ei roi i’r ffermwr am ei gyfraniad i’r amgylchedd.

Trwy fod dan cynlluniau diweddaraf y Llywodraet­h o ran rheoli’r tir yn gynaliadwy, bydd rhain yn cael eu cydnabod fel nwyddau cyhoeddus a fydd yn cyfiawnhau derbyn cymorth ariannol. Cofier, serch hynny, mai cynlluniau gwirfoddol yw’r rhain ac os na fanteisir arnynt, ni cheir cymorth ariannol. Mae yna hefyd hanner addewid fod yna gymorth ariannol o’r newydd i ddod er mwyn hybu ffermio cynaliadwy.

Yr hyn sy’n gwbl angenrheid­iol i ffermwyr yw sicrwydd marchnad a phris teilwng am eu gwaith.

Gwêl rhai fod dyfodol y diwydiant llaeth yn ansicr oherwydd costau cynhyrchu, gyda phris litr o laeth wedi gostwng 10c o fewn y flwyddyn yma o achos colli’r farchnad dramor.

Mae cwmni First Milk yn amlwg yn ffyddiog yn y dyfodol. Maent newydd fuddsoddi £12.5m mewn hufenfa laeth yn Cumbria er mwyn prosesu rhagor o laeth.

Calonogol iawn yw deall fod Hufenfa Sir Benfro yn golygu cwblhau’r gwaith o godi hufenfa newydd i’w hagor yn y dyfodol agos.

Golyga y byddant yn medru potelu o leiaf miliwn litr o laeth yr wythnos gan roi cyfle i’r archfarchn­adoedd a chwmnïau eraill yng Nghymru roi llaeth ffres i’w cwsmeriaid yn hytrach na gorfod ei ddanfon dros y ffin i’w brosesu, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Mawr hyderir y bydd yna ddigon o gyflenwad i gadw’r ffatrïoedd yma mewn gwaith.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom