Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

MI DDIGWYDDOD­D yna rywbeth diddorol yn Theatr y Werin, Aberystwyt­h, y noson o’r blaen. Efallai fod pethau diddorol yn digwydd yn aml yn y lle... ond fydda’ i ddim yno fel rheol.

Y tro yma, fel lot o drigolion cefn gwlad Ceredigion – yn enwedig canol y sir – ro’n i wedi teithio i’r dre’ i weld perfformia­d o sioe gerdd Saesneg (efo chydig o Gymraeg).

Operation Julie oedd honno a’r teitl yn mynegi yn union be’ oedd hi – fersiwn llwyfan o stori ryfeddol y cylch cyffuriau yng nghanolbar­th Cymru ar ddechrau’r 1970au ac ymdrech fawr yr heddlu i ddod ag o i ben.

Mae’r stori yn fyw o hyd yn ardaloedd Llanbed, Tregaron a Llanddewi Brefi a bron pawb â rhyw gysylltiad â hi.

O’n haelod seneddol yn San Steffan, sy’n ŵyr i blisman Llanddewi, hyd at ambell gontractwr fu’n gosod system ddŵr yn ddiniwed ar gyfer labordy.

Mae yna fyfyrwyr oedd yn Aber ar y pryd yn dal i gofio am y boi llawn dirgelwch oedd yn yfed yn Nhafarn y Cambrian a phawb – ond yr heddlu am wn i – yn gwybod ei fod yn “gneud drygs”. Drygsioni, fel petai.

Roedd y sioe’n cydnabod ambell chwedl fwy esoterig hefyd, fel yr awgrym fod dyn o’r enw Robert Allen Zimmerman wedi byw ymhlith hipis yr ardal pan oedd yn mynd trwy amser caled. Bob Dylan, hynny yw.

Rhyw gymysgedd fach smala felly o’r difri’ a’r digri oedd y perfformia­d ar ei hyd, efo llawer iawn o elfennau stoc yr hen ddrama lwyfan Gymraeg – plisman drama diniwed lleol, plisman drama dramatig o Sais; diwylliann­au’n cwrdd a hynny’n creu doniolwch.

O gyfarfyddi­ad dau ddiwyllian­t y daeth y peth diddorol hefyd. Achos, roedd yna ddwy gynulleidf­a wahanol yn amlwg yn y theatr y noson honno – ni a nhw oedd hi o’r ddwy ochr.

Ysgwydd yn ysgwydd â’r brodorion lleol roedd y boblogaeth leol newydd.

Felly, pan aeth yr actor Phyl Harries ati i arwain y gynulleidf­a mewn datganiad o “Oes Gafr Eto?” (Pam? Ewch i weld y sioe), fe aeth y siaradwyr Cymraeg amdani efo arddeliad. A gweddill y dyrfa’n edrych o’u cwmpas yn chwilfrydi­g ac ofnus braidd.

Roedd hi fel petasai’r brodorion

“go iawn” eisio dangos mai dyna oedden nhw; mai eu stori nhw oedd hon a fod yna ran ohoni y tu hwnt i’r gweddill mud.

Hyd yn oed os oedd yna ambell jôc am Dregaron a’r cyffiniau, ni oedd yn mynd i ennill.

Dw i ddim yn meddwl bod y teimlad wedi para’n ddigon hir i gyrraedd y ceir yn y carparc ond, am ychydig funudau, roedd hi’n swnio fel bod gwrthryfel neu ddiwygiad ar droed.

Dyw’r chwyldro ddim ar y teledu, gyfaill, meddai rhywun – ond mae mewn sioe gyffuriau.

walesonlin­e/cymraeg

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom